Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal er mwyn edrych ar y posibiliadau ar gyfer datblygu darpariaeth addysg ôl-16 yng Ngheredigion.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod Cabinet y Cyngor Sir heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 7), lle rhoddodd aelodau gyfarwyddyd i Ysgolion a Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes y sir i gynnal yr astudiaeth fanwl.

Fel rhan o’r astudiaeth, bydd craffu ar y gwahanol opsiynau er mwyn “sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg ôl-16 yn y sir yn y dyfodo”, yn ôl y Cyngor.

Cefndir

Y llynedd, cafodd arolygon eu hanfon at grwpiau allweddol o ddysgwyr, rhieni, gofalwyr, athrawon a chyflogwyr.

Daeth 1,306 o ymatebion gan unigolion, a chafodd cyfweliadau eu cynnal gyda chynrychiolwyr o ddarparwyr addysg, yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill.

Cafodd pedwar opsiwn eu hystyried, sef:

  1. Cynnal y Sefyllfa Bresennol
  2. Datblygu’r Sefyllfa Bresennol Ôl-16 – byddai’r ddarpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennolOpsiwn
  3. Darpariaeth mewn rhai ysgolion – byddai hyn yn golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 mewn un neu fwy o safleoedd.
  4. Un Ganolfan Ragoriaeth – sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, mewn un neu fwy o safleoedd daearyddol addas

Bu’r Aelodau Cabinet hefyd yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Dysgu, a daeth y Cabinet i’r casgliad y dylai’r astudiaeth ddichonoldeb ganolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar opsiynau 2 a 4.

‘Cynnal a datblygu safon eithriadol’

Yn ôl y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, “nod yr adolygiad hwn yw edrych ar ffyrdd o gynnal a datblygu safon eithriadol yr addysg a gynigir i ddisgyblion yng Ngheredigion”.

“Yn ogystal â hyn, darparu cyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad i ystod eang o bynciau, gan gynnwys pynciau galwedigaethol, a gyflwynir gan athrawon ymroddedig eithriadol,” meddai.

“Rydym am sicrhau bod ein pobol ifanc yn gallu manteisio’n llawn a chyflawni eu gwir botensial wrth iddyn nhw barhau â’u hastudiaethau ôl-16.”

Pryder disgyblion Chweched Dosbarth Ceredigion am eu hiechyd meddwl

Lleucu Jenkins

“Bydden i’n credu taw’r peth gwaethaf all ddigwydd yw ein bod ni’n cyfuno pob Chweched mewn i un ganolfan,” medd un am y newidiadau posib