Mae’n debyg bod fersiwn Cymraeg o bapurau pleidleisio refferendwm Ewrop wedi gorfod cael eu newid – a hynny am fod pryder y gallai bobol ddrysu rhwng y geiriau “para” a’r gair “bara”.

Roedd y cwestiwn gwreiddiol yn darllen, “A ddylai’r Deyrnas Unedig bara i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?”

Cafodd llun o’r papurau pleidleisio arfaethedig eu cyhoeddi’r wythnos hon gan y Comisiwn Etholiadol, ar ôl newid y fersiwn Cymraeg.

Bellach, mae’r cwestiwn wedi’i newid i, “A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?”

Roedd ymchwil y comisiwn, cyn cyhoeddi geiriad y cwestiwn wedi argymell bod y cwestiwn yn cael ei newid ar ôl i ymchwilwyr ofyn barn grŵp o siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd cwmni GfK a gynhaliodd y gwaith ymchwil fod y grŵp ddim wedi hoffi’r gair ‘para’ gan ei fod yn “swnio gormod fel bara (rydych yn ei fwyta)” pan gaiff ei dreiglo.

Yn ôl y cwmni, doedd y grŵp o siaradwyr Cymraeg ddim yn hoffi’r gair parhau/barhau chwaith.

Beirniadu pleidlais ym mis Mehefin

Mae disgwyl cynnal y refferendwm ar aelodaeth ynysoedd Prydain yn Ewrop erbyn diwedd y flwyddyn.

Gallai hynny fod mor gynnar â mis Mehefin, ond mae’r cynnig hwn wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion Cymru gan ei fod yn “rhy agos” i etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.