Rheolwr newydd Abertawe, Francesco Guidolin (Roberto Vicario/CC3.0)
Er ei fod yn dal i ddefnyddio cyfieithydd ar y cae ymarfer wrth gyfathrebu â’i garfan, mae’n debyg nad yw rheolwr newydd Abertawe wedi bod yn rhy brysur i ddysgu rhywfaint o iaith y nefoedd.

Yn ei gynhadledd i’r wasg yr wythnos hon fe synnodd Francesco Guidolin y cyfryngau oedd yn bresennol ar ôl i un newyddiadurwr ofyn a oedd wedi dysgu unrhyw Gymraeg.

Yes, bore da!” oedd ateb yr Eidalwyr, gan arwain at dipyn o chwerthin ac anghrediniaeth yn yr ystafell.

It’s very easy,” ychwanegodd y rheolwr cyn troi at drafod a fyddai’n arwyddo unrhyw chwaraewyr newydd cyn diwedd y ffenestr drosglwyddo.

Arwyddo ymosodwr

Mae capten Abertawe Ashley Williams eisoes wedi cyfaddef bod Guidolin yn gorfod defnyddio cyfieithydd weithiau wrth drosglwyddo ei neges ar y cae ymarfer.

Ond mae Saesneg yr Eidalwr wedi bod yn ddigon da i siarad â’r wasg, ac mae’n amlwg nad yw’r tîm wedi cael llawer o drafferth deall ei orchmynion chwaith wedi iddyn nhw guro Everton o 2-1 yng ngêm gyntaf y dyn newydd wrth y llyw.

Dywedodd Guidolin ei fod yn hyderus y bydd yn gallu ychwanegu at y garfan cyn diwedd y ffenestr drosglwyddo a bod y clwb eisoes wedi dod i gytundeb ag ymosodwr Chievo, Alberto Paloschi.

Mae disgwyl i’r ymosodwr 26 oed symud i Abertawe yn y deuddydd nesaf, ac mae’r clwb hefyd yn gobeithio arwyddo chwaraewr canol cae cyn dydd Llun.