Mae cynlluniau i godi mast ffôn 5G yn un o wersylloedd gwyliau mwyaf Ceredigion wedi cael eu tynnu’n ôl.

Fe wnaeth 70 o bobol wrthwynebu cynlluniau Freshwave Facilities Limited i godi mast ac antena 23.14 medr i wella signal Vodafone ym Mharc Gwyliau West Quay yng Ngheinewydd.

Dywedodd asiant Rapleys mewn datganiad yn cefnogi’r cais y byddai’r mast yn gwella signal ar y maes carafanau ac yn parhau i ddarparu 3G a 4G i’r ardal.

Roedden nhw’n nodi hefyd y byddai’n darparu cysylltiad 5G gwell i Vodafone, ac yn cyflwyno cysylltedd sydyn iawn.

Fe wnaeth 73 o bobol wrthwynebu’r cais, gan gynnwys Henry Dent, sy’n dweud y byddai ymddangosiad y mast yn golygu y byddai’n bosib ei weld o bell wrth edrych dros Geinewydd ac o rannau eraill o’r arfordir.

Dywedodd Loren Bromley wrth wrthwynebu: “Tŷ Halen yw ein cartref teuluol, ac fe wnaethon ni ei adeiladu o’r ddaear.

“Mae’n syndod llwyr ein bod ni’n ffeindio’n hunan yn y sefyllfa annychmygadwy hon, lle mae tŵr 5G 23 medr am gael ei godi yng ngwaelod ein gardd, fwy neu lai.

“Rydyn ni wedi cael cyngor dibynadwy a phroffesiynol gan asiant tai lleol dros y dyddiau diwethaf, ac maen nhw wedi dweud wrthym ni y bydd y mast eithriadol o hyll yma’n cael ei osod ar, ac ar bwys, terfyn ein tir, ac y bydd hynny’n gostwng gwerth ein heiddo, gan ein gadael mewn ecwiti negyddol heb fod unrhyw fai arnom ni.”

Dywedodd Leigh Cooper o Coopers Roofing y dylai’r mast gael ei adeiladu “allan o olygfa trigolion sydd wedi talu arian da i fyw yng Ngheinewydd”.

Roedd Cyngor Tref Ceinewydd yn gwrthwynebu lleoliad a maint y mast hefyd, gan ddweud ei fod rhy agos at dai, ei fod mewn Ardal Dirwedd Arbennig ac na fyddai o fudd i’r gymuned, dim ond i ddefnyddwyr y parc.

‘Effaith negyddol sylweddol’

Roedd pedwar cynrychiolydd yn cefnogi’r cynllun yn y cyfarfod cynllunio, ac yn dweud y byddai’n gwella’r signal ffôn.

Ar ôl i adroddiad yn argymell gwrthod y cynllun gael ei anfon i’r asiant, fe wnaethon nhw dynnu’r cais yn ôl.

“Mae effaith y datblygiad ar olygfa trigolion sy’n byw gerllaw yn amlwg o nifer y gwrthwynebiadau wnaethon ni eu derbyn i’r cais,” medd yr adroddiad.

“Ystyrir y byddai’r mast, o ganlyniad i’w leoliad, yn cael effaith negyddol sylweddol ar olygfeydd trigolion cyfagos.”

Roedd yr adroddiad yn beirniadu proses yr ymgeiswyr wrth ddewis lleoliad hefyd, gan ddweud ei bod yn “gyfyngedig”, ac nad oedd datblygwyr wedi rhoi’r wybodaeth ofynnodd y cynllunwyr amdano er mwyn gwneud y cais yn ddilys.