Vaughan Gething
Mae adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod llai o bobol yn marw o strôc yng Nghymru nag oedd ddegawd yn ôl.

Roedd 3,158 wedi marw o’r cyflwr yn 2005, gydag 841 yn llai yn marw ohono yn 2014 – 2,317.

Tra’i fod yn tynnu sylw at feysydd i’w gwella, mae’r adroddiad yn nodi bod ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a gwell gwaith atal wedi helpu lleihau nifer y marwolaethau.

Bydd angen i’r Gwasanaeth Iechyd ddatblygu ei wasanaeth ‘rhyddhau o’r ysbyty â chymorth yn gynnar’ a chynyddu nifer y cleifion strôc sy’n cael eu hasesu o fewn chwe mis o gael eu rhyddhau er mwyn gwella’r ffigurau at y dyfodol.

7,000 yn cael strôc bob blwyddyn

Ar y cyfan, nodwyd bod nifer y marwolaethau yn lleihau dros 1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng y blynyddoedd 2003-05 a 2012-14.

Tua 7,000 o bobol sy’n cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru erbyn hyn.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cyhoeddi pecyn gofal i bobol sydd wedi cael strôc, a gyrhaeddodd 94% o gleifion rhwng 2014 a 2015.

Mae nifer y cleifion sy’n cymryd cyffuriau i atal clotiau sy’n gysylltiedig â strôc hefyd wedi cynyddu o 358 yn 2012-13 i 501 yn 2014-15.

‘Parhau i wella’

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y mae gwasanaethau strôc yng Nghymru’n parhau i wella gyda mwy o bobl yn goroesi a llai o bobl yn marw o strôc,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n buddsoddi’n sylweddol mewn gwella gwasanaethau strôc i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir yn y man cywir ar yr adeg gywir.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru y byddai triniaeth strôc yn “parhau i ddatblygu” yn dilyn yr adroddiad.

“Mae ein hadroddiad blynyddol yn dangos ein bod yn darparu gofal o ansawdd i bobl sydd wedi dioddef o strôc trwy waith atal, codi ymwybyddiaeth ac addysg, triniaeth effeithiol ac amserol, ymchwil a chynorthwyo’r rheini sy’n byw ac yn marw o strôc,” meddai Dr Andrew Goodall.

“Hoffwn ddiolch o galon i staff y gwasanaeth iechyd sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wneud gwelliannau parhaus a chynaliadwy i wasanaethau.”