Jo Stevens
Mae llety ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd sy’n wedi dod lan y lach unwaith eto a hynny oherwydd yr amodau byw gwael sydd yno.

Cyhoeddodd papur newydd The Guardian luniau a fideo yn dangos y diffyg diogelwch a hylendid sydd yn  Lynx House, sydd hefyd yn ‘orlawn’ o ffoaduriaid.

Mae’r canfyddiadau yn dod yn dilyn yr helynt a fu ynghylch gorfodi ceiswyr lloches yn y llety i wisgo bandiau ar eu harddwn er mwyn gallu hawlio prydau bwyd am ddim.

Bellach, mae AS dros Ganol Caerdydd, Jo Stevens, wedi galw ar y Swyddfa Gartref i gynnal ymchwiliad brys i’r cyfleusterau.

Yn ôl cwmni preifat Clearsprings, sy’n darparu llety ar gyfer ceiswyr lloches ar ran y Swyddfa Gartref, mae’r cyfleusterau yn cael eu harolygu’n rheolaidd.

“Annigonol”

Ond dywedodd Jo Stevens, ei bod yn poeni bod yr ymchwiliadau hyn yn “annigonol.”

“Mae gan Clearsprings a’r Swyddfa Gartref lawer o gwestiynau i’w hateb dros gynnal y cytundeb hwn, sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwr, yn Lynx House yn fy etholaeth,” meddai.

“Mae’r rhestr o gwynion yn cynyddu ynglŷn â’r modd y mae’r cytundeb hwn yn cael ei weithredu. Maen nhw wedi dod gan y Gwasanaeth Tân sydd wedi codi pryderon am orlenwi, grwpiau cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid lleol, trigolion lleol a phobol sy’n byw yn Lynx House.

“Dywedodd Clearsprings ei fod yn cynnal arolygon rheolaidd, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r arolygon hyn yn ddigon cadarn na thrylwyr. Mae’n bryd i’r Swyddfa Gartref ymchwilio’n iawn i’r problemau a gweithredu.”

Cadarnhaodd Cyngor Caerdydd wrth The Guardian, yn dilyn adroddiad gan Wasanaeth Tân De Cymru, y byddai ymchwiliad iechyd amgylcheddol yn cael ei gynnal a llety gwahanol yn cael ei gynnig os byddai’r lleoliad yn cael ei ddynodi’n anniogel.