Paul a Warren Rutherford
Mae galwadau wedi dod heddiw dros eithrio rhai pobol o’r ‘dreth ystafell wely’ sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd llefarydd gwaith a phensiynau Llafur, Owen Smith, fod angen i weinidogion eithrio pobol sy’n cael eu hanffafrio gan y polisi, yn hytrach na gwario arian ar ffioedd cyfreithiol pan aiff achos i’r Llys Apêl.
Dylai’r eithriad fod yn gymwys i ddioddefwyr trais domestig a theuluoedd sydd â phlentyn anabl iawn, meddai’r AS dros Bontypridd.
Daw ei alwadau yn dilyn dyfarniad y Llys Apêl ddydd Mercher, pan enillodd teulu o Sir Benfro her gyfreithiol yn erbyn anghyfiawnder y dreth.
Roedd Paul a Sue Rutherford, o Glunderwen, sy’n gofalu am eu hŵyr, sydd ag anabledd difrifol, wedi dadlau drwy gydol yr achos fod y dreth yn cael effaith negyddol sylweddol ar blant anabl iawn sydd angen gofal drwy gydol y nos.
Barnodd y llys o blaid dynes sengl hefyd, a oedd wedi dioddef trais domestig ac sy’n byw mewn tŷ cyngor tair ystafell sy’n cynnwys ystafell ddiogel i’w gwarchod hi rhag ei chynbartner oedd yn ymosod arni.
Er dyfarniad y llys, daeth cadarnhad gan y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Justin Tomlinson, y byddai’r llywodraeth yn apelio yn erbyn y dyfarniad yn y ddau achos.
Y dreth yn ‘anghyfreithlon ac yn gwahaniaethu’
Dywedodd Owen Smith y byddai’n costio £200,000 i eithrio 280 o ddioddefwyr trais domestig sydd ag ystafelloedd diogel yn eu cartrefi, rhag y dreth.
“Roeddwn yn gwybod bod y dreth ystafell wely yn greulon ond nawr rydym yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon,” meddai yn Nhŷ’r Cyffredin.
“A dylai’r dyfarniad pendant hwn nodi’r diwedd i’r polisi niweidiol hwn. Gallai’r dyfarniad ddim wedi bod yn fwy eglur – mae’r dreth ystafell wely yn anghyfreithlon ac yn gwahaniaethu.”
Dywedodd Justin Tomlinson fod y llywodraeth yn rhoi taliadau tai dewisol i deuluoedd sydd angen rhagor o gymorth yn dilyn cyflwyno’r dreth ystafell wely.
“Ar ben y £560m ers 2011, rydym yn rhoi £870m yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf,” meddai.
“Mae’r bobol yn yr achosion hyn yn cael taliadau tai dewisol. Dyna’n union pam bod gennym daliadau tai dewisol ac mae’n dangos bod y rhain yn gweithio.”
Galw am gynyddu’r taliadau
Ond mae AS Plaid Cymru wedi dweud bod angen cynyddu’r taliadau hyn i helpu “dioddefwyr” y dreth ystafell wely.
“Mae dyfarniad y Llys Apêl yn profi bod y dreth ystafell wely yn ddinistriol ac yn anymarferol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rwy’n galw ar y Llywodraeth i gael gwared â’r dreth llofftydd ac, fel mesur dros dro, gynyddu taliadau treth llofftydd nes bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu.”
Dywedodd Liz Saville Roberts, sy’n AS dros Ddwyfor-Meirionnydd, fod Cyngor Gwynedd wedi ychwanegu at y gronfa o daliadau dewisol mewn ‘ymateb i’r galw aruthrol’ amdanynt.
“Dylai’r Llywodraeth ddarparu cynnydd arbennig mewn taliadau dewisol mewn ardaloedd lle mae pwysau am dai, megis ardaloedd trefol a lle mae stoc tai yn anhyblyg, megis yn y sector dai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig,” meddai.
Beirniadodd Llywodraeth Cymru am beidio â dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban drwy dalu’r dreth llofftydd i bawb.