Y Frenhines
Fe ddylai Aelodau Cynulliad newydd yng Nghymru gael dewis i bwy maen nhw’n tyngu llw ar ôl cael eu hethol, yn ôl deiseb newydd.

Ar hyn o bryd mae ACau newydd yn tyngu llw i’r Frenhines ond mae’r grŵp Cymru Sofren a Mudiad Hawliau Cenedlaethol Cymru, a sefydlodd y  ddeiseb, am roi’r dewis i ACau  dyngu llw i naill ai bobol Cymru neu i’r goron neu’r Frenhines.

Yn ôl y sefydlwyr, byddai darparu’r dewis hwn yn “decach” ac yn “adlewyrchu’r amrywiaeth eang o safbwyntiau mewn cymdeithas yn well.”

‘Tegwch gwleidyddol’

Ar hyn o bryd, mae gwleidyddion holl ynysoedd Prydain, oni bai am aelodau’r senedd yng Ngogledd Iwerddon, yn gorfod tyngu llw i’r Frenhines pan fyddan nhw’n cael eu hethol.

Mae’r drefn ychydig yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, lle mae disgwyl i aelodau newydd dyngu llw i’w swydd.

Byddai cyflwyno dewis tebyg yng Nghymru yn ‘hanfodol ar gyfer tegwch gwleidyddol’ yn ôl Cymru Sofren, sy’n galw am sofraniaeth lawn i Gymru.

Bydd y ddeiseb ar agor tan ddiwedd mis Mehefin a’r gobaith yw ei chyflwyno i San Steffan cyn i dymor newydd y Cynulliad ddechrau.

Mae gobaith y bydd y ddeiseb yn gallu dylanwadu ar Fesur Cymru hefyd, gan geisio newid y mesur er mwyn rhoi’r hawl i Fae Caerdydd benderfynu ar nodweddion seremonïau tyngu’r llw yn y Cynulliad.

 

Peidio tyngu llw yn ‘gywilyddus’

Ond yn ôl un ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad eleni, mae’r ddeiseb yn “gywilyddus”.

“R’yn ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig, ac felly mae rheidrwydd i bob Aelod Cynulliad i dyngu llw i’r goron ac i’r Frenhines yn yr un ffordd y mae Aelodau Seneddol San Steffan yn ei wneud,” meddai Felix Aubel, sy’n ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yng Ngheredigion.

“Bydden i’n falch iawn i dyngu llw i’r Frenhines achos r’yn ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o wladwriaeth gwledydd Prydain.”

Dywedodd hefyd fod y “rhan fwyaf o bobol Cymru am barhau i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig a bod mwyafrif llethol o bobol Cymru yn deyrngar i’r Frenhiniaeth.”

Er ei fod yn cydnabod mai gwasanaethu yr etholaeth a phobol Cymru yw hanfod swydd Aelod Cynulliad, mae’n dweud bod hynny’n dal i gyd-redeg fel rhan o’r wladwriaeth Brydeinig.

“Byddem yn gwasanaethu pobol Ceredigion a phobol Cymru drwy’r Cynulliad a hynny fel rhan o’r wladwriaeth Brydeinig, mae’r ddau yn cyd-rhedeg,” meddai.