Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion newydd am berfformiad ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Mae’r system, a ddaeth i rym y llynedd yn lle’r hen system fandio dadleuol, yn rhoi ysgolion mewn un o bedwar categori cefnogaeth bob blwyddyn. Mae gan bob categori god lliw – sef gwyrdd, melyn, oren a choch.

Meddai Llywodraeth Cymru bod ysgolion yn y categori gwyrdd eisoes yn gwneud yn dda, a nhw sydd ag angen y gefnogaeth leiaf, o gymharu â’r ysgolion yn y categori coch sydd â’r angen mwyaf.

Canlyniadau

Eleni, mae 79.5% o ysgolion cynradd a 57% o ysgolion uwchradd naill ai yn y categorïau gwyrdd neu felyn.

O’r 1,316 o ysgolion cynradd gafodd eu hasesu, mae 294 wedi cael eu rhoi yn y categori gwyrdd a 32 yn y categori coch.

O’r 212 o ysgolion uwchradd gafodd eu hasesu, mae 39 yn y categori gwyrdd ac mae 26 yn y categori coch.

Er bod y canlyniadau’n well na’r llynedd, nid yw’n bosib cymharu’r ddwy set yn uniongyrchol oherwydd newidiadau yn y ffordd cafodd y data ei gasglu.

Llinyn mesur

Cafodd categori pob ysgol ei bennu gan amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ansawdd ei harweinyddiaeth, data perfformiad, hunanasesiadau a’i gallu ehangach i wella. Mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol hefyd yn chwarae rôl yn y broses o gategoreiddio ysgolion yn eu hardaloedd.

Codi safonau

Wrth siarad am y canlyniadau diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Rydyn ni wedi cyflwyno System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion er mwyn cael gwybod pa ysgolion sydd â’r angen mwyaf o ran cael cefnogaeth, ac er mwyn inni allu asesu ysgolion ar eu perfformiad a’u gallu i wella.

“Mae’r system yn ein helpu i wybod pa ysgolion sydd â’r angen mwyaf o ran cael cymorth, cefnogaeth ac arweiniad. Rydyn ni hefyd yn gallu dweud pa ysgolion sy’n gwneud yn dda ond a allai wneud yn well, a hefyd yr ysgolion sy’n effeithiol iawn ac a fyddai’n gallu helpu eraill i wella.

“Wrth sôn am Gategoreiddio, nid sôn ydyn ni am dablau cynghrair moel na labelu ysgolion, ond yn hytrach am gyfeirio’r cymorth iawn i’r ysgolion perthnasol, gan sicrhau gwelliannau ar draws ein system ysgolion.

“Yn y pen draw, y nod yw codi safonau a helpu ein hysgolion i hunanwella.”

Cafodd y broses gategoreiddio ei datblygu ar y cyd â’r sector Addysg.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Eifion Evans: “Mae trylwyredd a sicrwydd y system categoreiddio ysgolion, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, yn galondid i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. Mae tegwch a chysondeb o fewn y broses yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn parhau i gael eu cefnogi a’u datblygu.”

Ymateb undebau  athrawon

Ar y cyfan, mae undebau addysg wedi croesawu’r cyhoeddiad er bod ganddyn nhw rhai pryderon am y system ei hun.

Wrth sôn am y cyhoeddiad dywedodd Rob Williams, cyfarwyddwr polisi undeb athrawon NAHT Cymru eu bod yn “croesawu’r gwelliannau cyffredinol mewn perfformiad a welwyd yn ysgolion Cymru.”

Ond rhybuddiodd os yw categoreiddio am weithio orau, yna mae angen iddo fod yn rhan o’r prosesau gwella ysgolion eraill yng Nghymru.

Meddai: “Mae’n rhaid i ni hefyd fod yn ofalus nad yw’r gefnogaeth yn troi yn fwy o her – gan fod gweithio’n gallach a dysgu o arferion gorau yn fwy cynhyrchiol na dim ond ychwanegu set arall o bethau i ysgol ei wneud.

“Nid yw’r dyraniad ychwanegol o adnoddau a chefnogaeth a ddarperir i ysgolion mewn categorïau melyn a choch yn cuddio’r gwahaniaethau ariannu enfawr sy’n parhau i fodoli rhwng ysgolion ar draws Cymru.

“O ystyried yr argymhellion gan yr Athro Donaldson sy’n ymwneud ag atebolrwydd ac ysgolion – gan gynnwys bod angen i’r system gategoreiddio adlewyrchu argymhellion ehangach – byddem yn hoffi gweld bod cynnydd disgybl yn cael ei gynnwys fel rhan o unrhyw system barhaus. Yna, gallwn ganolbwyntio ar y peth mwyaf pwysig; manteisio i’r eithaf ar botensial plant. ”

Gwerthusiad ehangach’

Rhybuddiodd NUT Cymru, yr undeb mwyaf ar gyfer athrawon yng Nghymru, yn erbyn tynnu unrhyw gasgliadau pendant o’r canlyniadau.

Meddai David Evans, ysgrifennydd NUT Cymru: “Ni ddylem wneud unrhyw farnau penodol ar sail canlyniadau categoreiddio ar ei ben ei hun. Efallai y bydd ysgolion yn y categori gwyrdd angen cymorth mewn mannau eraill. Mae’n rhaid i ni weld categoreiddio fel rhan o werthusiad ehangach o ysgolion, ac yn fwy penodol fel ffordd o nodi pa gymorth sydd ei angen, yn hytrach na mecanwaith syml ar gyfer dyfarnu.

“Fodd bynnag, yr hyn y gallwn ei weld yw bod y canlyniadau hyn, ochr yn ochr ag adroddiad adeiladol a chadarnhaol Estyn a chanlyniadau Safon Uwch a TGAU gwych yn rhan o naratif cynyddol o system sy’n llwyddo i wneud cynnydd go iawn. Dylai athrawon ledled Cymru gael eu canmol am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i safonau.”

‘Cefnogaeth i athrawon’

 

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas bod perfformiad rhai ysgolion uwchradd yn peri pryder.

“Dylid canolbwyntio ar gefnogi ysgolion, ac yr wyf yn gobeithio’n awr fod y categorïau wedi eu cyhoeddi y bydd y llywodraeth Lafur yn cefnogi ysgolion sy’n tan berfformio.

“Mae chwarae o gwmpas yn gyson gyda’r system, megis gostwng safon cyrhaeddiad disgyblion ar brydau ysgol am ddim, yn golygu na fydd llawer o rieni yn credu honiad Llafur am well ysgolion.

“Y gwirionedd ar lawr gwlad yw bod gennym ysgolion gwych yng Nghymru ond fod rhai o’n hysgolion uwchradd yn symol neu hyd yn oed yn waeth, heb ddangos unrhyw arwydd o wella. Mae hyn yn achos pryder.

“Mae’n amser cael llywodraeth fydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i athrawon yn hytrach nag un sy’n ymosod arnynt ac yn iselhau eu hysbryd.

“Mae Plaid Cymru eisiau gadael i athrawon ddatblygu arbenigedd yn yr un modd â meddygon a chyfreithwyr, lle mae ganddynt y rhyddid i barhau eu datblygiad proffesiynol trwy gydol eu gyrfaoedd, gan gadw’n gyfoes â’r arferion gorau.”