Mae’n debyg y bydd Parc Cenedlaethol arfaethedig newydd yn y gogledd-ddwyrain yn gorchuddio ardal lawer mwy eang na’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bresennol, a hyd yn oed yn cysylltu â Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn creu ardal ddynodedig sy’n ymestyn ar draws y gogledd.

Does dim penderfyniad cadarn wedi’i wneud o ran maint y Parc Cenedlaethol eto, ond mae posibilrwydd y gallai’r parc ymestyn i lawr i Lanfair Caereinion yng ngogledd Powys a draw i Fallwyd yng Ngwynedd.

Mae estyniadau arfaethedig eraill yn cynnwys Mynydd Helygain, o Dreffynnon i Laneurgain, Mynydd yr Hob uwchben Caergwrle, a thua’r gorllewin i Ddyffryn Clwyd.

Bydd penderfyniad ar y cynlluniau arfaethedig yn cael ei wneud yn ystod y tymor hwn o’r Senedd, sy’n rhedeg tan 2026.

‘Angen mwy o eglurder’

Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r cynlluniau, maen nhw’n bryderus ynghylch yr hyn y bydd yn ei olygu i dir fferm a chynlluniau tai o fewn yr ardal.

“Mae’r syniad o Barc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn ymddangos ar yr wyneb yn un cadarnhaol a gallai wella twristiaeth a hybu proffil y trefi a’r pentrefi cyfagos,” meddai Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy.

“Fodd bynnag, gyda maint cyffredinol y parc rhagamcanol, mae angen mwy o eglurder ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i dir fferm presennol a rhagolygon adeiladu tai yn y dyfodol, gyda’r cynlluniau gafodd eu hamlinellu yn cwmpasu pedair sir, ni ellir esgeuluso’r cymunedau lleol.

“Er ein bod yn croesawu’r syniad o Barc Cenedlaethol newydd, byddai maint y prosiect hwn yn creu costau gweinyddol di-ben-draw ac yn rhoi baich ar y siroedd mae’n eu cwmpasu.”

Cyfle i roi barn 

Ond dywed Ash Pearce, rheolwr y prosiect, eu bod nhw’n dal yn ymchwilio ar hyn o bryd.

“Ar y cam hwn, rydym wedi nodi maes i’w astudio ac rydym am wrando a deall y materion, y cyfleoedd a’r themâu arwyddocaol sy’n effeithio ar yr ardal,” meddai.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod hi’n rhy gynnar i drafod swyddogaethau a chyllid posibl y Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd.

Maen nhw’n annog pobol i gyflwyno’u barn ar y parc arfaethedig yn y digwyddiadau ymgysylltu fydd yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf.

“Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â’r broses ddynodi, sef ei rôl statudol,” meddai llefarydd.

“Byddai’n amhriodol dyfalu ar y manylion tra bod y broses bwysig hon ar y gweill.”

Bydd y sesiynau ymgysylltu’n cael eu cynnal rhwng Hydref 11 a Thachwedd 22, fel a ganlyn:

  • Dydd Mercher, Hydref 11, 1yp-7yh: Sesiwn galw heibio, Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, LL20 7HE.
  • Dydd Iau, Hydref 19, 6yh-7.30yh: Ar-lein trwy Microsoft Teams.
  • Dydd Sadwrn, Hydref 28, 10yb-4yp: Sesiwn galw heibio, Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 5LH.
  • Dydd Llun, Tachwedd 6, 1yp-7yh: Sesiwn galw heibio, Pwyllgor Sefydliad Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin, SY22 5AA.
  • Dydd Mawrth, Tachwedd 14, 6yh-7.30yh: Ar-lein trwy Microsoft Teams.
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 18, 10yb-4yp: Sesiwn galw heibio, Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, LL20 8NU.
  • Dydd Mercher, Tachwedd 22, 1yp-7yh: Sesiwn galw heibio, Neuadd Goffa Trelanwyd, Trelawnyd, LL18 6DN.