Does dim angen gostwng lefel yfed a gyrru Cymru a Lloegr er mwyn iddo fod yr un peth â’r Alban, yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys.
Daw ei sylwadau yn sgil galwad gan dri o Gomisiynwyr Heddlu gogledd Lloegr i sicrhau bod y lefelau yr un peth ym mhob rhan o Brydain.
Llynedd cafodd y lefel yfed a gyrru a ganiateir yn yr Alban ei ostwng i 50mg am bob 100ml o waed, yr un peth â’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop, ond mae’r lefel yn parhau yn 80mg yng Nghymru a Lloegr.
Lefel ‘synhwyrol’
Bydd aelodau Tŷ’r Arglwyddi’n trafod newid y lefel yfed a gyrru ddydd Gwener, ac mae Comisiynwyr Heddlu Northumbria, Durham a Cleveland eisoes wedi cefnogi’r cynnig.
Ond yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon, mae’r rheolau presennol yng Nghymru a Lloegr yn ddigon ‘synhwyrol’.
“Yr egwyddor saffaf yw peidio ag yfed a gyrru. Mae’n rhaid i ni wneud popeth allwn ni er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod hynny,” meddai Christopher Salmon wrth golwg360.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ddeddf fod yn gytbwys a synhwyrol. Rydw i’n meddwl bod y lefelau presennol yn cyflawni hynny, ond fe ddylen ni wastad gadw’r peth o dan ystyriaeth.”
‘Achub bywydau’
Yn ôl astudiaeth gafodd ei chynnal llynedd fe fyddai gostwng y lefel yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr i 50mg wedi achub bywydau 25 o bobl ym Mhrydain.
Awgrymodd Comisiynydd Heddlu Gwent, Ian Johnston, y byddai o blaid trafodaeth bellach ar y mater er mwyn gweld a fyddai newid y gyfraith yn gwneud gwahaniaeth.
“Byddwn yn cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth neu fenter a fyddai’n helpu i arbed bywydau pobl ar ein ffyrdd,” meddai Ian Johnston.
“Mae’n well peidio yfed o gwbl os ydych yn gyrru.”