Mae gyrwyr trên Trenau Arriva Cymru wedi gohirio eu streic oedd i fod i ddigwydd dydd Llun nesaf.

Roedd disgwyl i aelodau’r undeb Aslef gynnal streic 24 awr mewn anghydfod hir â’r cwmni trenau dros amodau gwaith a chyflog gweithwyr.

“Ar ôl trafodaethau hir gyda’r cwmni, mae Aslef yn gohirio ei streic ar Trenau Arriva Cymru ac yn codi’r gwaharddiad goramser,” meddai’r undeb.

“Bydd y mater bellach yn cael ei ystyried gan bwyllgor gweithredol Aslef pan fydd yn cyfarfod y mis nesaf.”

Datrys yr anghydfod

Roedd Aslef wedi galw am streic 24 awr ar gyfer dydd Llun 1 Chwefror yn dilyn un ar 4 Ionawr, a ddaeth ag anhrefn i’r rheilffyrdd.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru: “Mae undebau gyrrwyr trên wedi gohirio gweithredu diwydiannol i ystyried y cynnig amodau diweddaraf gan Trenau Arriva Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddod at ateb llawn a therfynol i’r anghydfod hwn ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a allai hyn wedi achosi.”

Ychwanegodd na fyddai unrhyw amharu ar deithiau cwsmeriaid ddydd Llun yn dilyn y newyddion.