Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc (llun: PA)
Mae un o weinidogion llywodraeth Ffrainc wedi ymddiswyddo am fod yr Arlywydd Francois Hollande eisiau tynnu dinasyddiaeth Ffrengig oddi ar frawychwyr sydd â chenedligrwydd deuol.

Daeth cadarnhad o ymddiswyddiad y Gweinidog Cyfiawnder, Christiane Taubira, oriau’n unig cyn i Fesur Dinasyddiaeth gael ei dderbyn gan gomisiwn seneddol.

Fel un sydd o dras Affricanaidd, mae Christiane Taubira wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros fenywod a lleiafrifoedd yn Ffrainc.

Mae ei holynydd, Jean-Jacques Urvoas, yn cael ei ystyried yn un o gynghreiriaid y prif weinidog Manuel Valls.

‘Targedu annheg’

Mae’r Mesur Dinasyddiaeth, a gafodd ei lunio fel ymateb i’r ymosodiadau ar Baris ar 13 Tachwedd, yn boblogaidd ymhlith gwleidyddion ceidwadol a’r adain dde, ond mae’n fater sy’n bygwth hollti’r Sosialwyr sydd mewn grym.

Mae gwrthwynebwyr y mesur yn gofidio ei fod yn targedu Mwslemiaid mewn modd annheg, ac yn ei gymharu ag ymdrechion i dynnu dinasyddiaeth Ffrengig oddi ar Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth wedi canmol “dewrder” Christiane Taubira.

Cyfaddawdu

Mae’r Mesur Dinasyddiaeth yn cynnwys nifer o fesurau i gwtogi ar hawliau unigolion sydd wedi’u cael yn euog o frawychiaeth, gan gynnwys tynnu’r hawl i bleidleisio a’r hawl i fod yn was sifil.

Ond er mwyn ceisio cyfaddawd rhwng y pleidiau, dywedodd Valls na fyddai’r mesur yn sôn am genedligrwydd deuol.

Dywed gwrthwynebwyr fod peidio cynnwys cenedligrwydd deuol yn y mesur yn debygol o arwain at ddau ddosbarth yn y gymdeithas, a bod hynny’n groes i’r egwyddor o gydraddoldeb yng Nghyfansoddiad Ffrainc.

Bydd y mesur yn cael ei drafod yr wythnos nesaf yn y Cynulliad Cenedlaethol, sef tŷ isaf Ffrainc.