Paul Rutherford a'i ŵyr, Warren (llun: Benjamin Wright/PA)
Mae teulu o Sir Benfro wedi ennill her gyfreithiol yn Llys Apêl yn Llundain yn erbyn anghyfiawnder y ‘dreth ystafell wely’.

Mae angen gofal dros nos ar ŵyr Paul a Sue Rutherford, Warren, o Glunderwen, sy’n dioddef o gyflwr genetig sy’n golygu nad yw’n gallu siarad, cerdded na bwydo’i hun.

Mae’r teulu’n byw mewn byngalo tair ystafell wely sydd wedi cael ei addasu ar gyfer anghenion Warren.

Mae Paul a Sue Rutherford yn cysgu mewn un ystafell, tra bod gan Warren ei ystafell ei hun.

Caiff y drydedd ystafell ei defnyddio gan ofalwyr sy’n dod i mewn i’r cartref dros nos ac i storio cyfarpar arbenigol ar gyfer gofal Warren.

‘Gwahaniaethu yn erbyn plant’

Roedd Paul a Sue Rutherford wedi dadlau drwy gydol yr achos fod y dreth yn cael effaith negyddol sylweddol ar blant a chanddyn nhw anableddau difrifol sydd angen gofal drwy gydol y nos.

Llwyddodd y cwpl i ddadlau bod y polisi, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2013, yn gwahaniaethu yn erbyn plant, gan nad yw’n darparu ar gyfer plant sydd angen gofal dros nos.

Nod y polisi yw annog pobol a chanddyn nhw ystafelloedd dros ben i symud i gartrefi llai, a hynny mewn ymgais i geisio arbed hyd at £480 miliwn y flwyddyn oddi ar gostau’r budd-dal tai.

Yn yr Uchel Lys yn 2014, dywedodd y barnwr Ustus Stuart-Smith fod Cyngor Sir Benfro yn talu gweddill rhent y teulu hyd at Ebrill 2015, a doedd dim tystiolaeth bryd hynny na fyddai’r Cyngor yn fodlon talu unwaith eto yn y dyfodol.

Ond mae’r Llys Apêl wedi barnu o blaid y teulu y tro hwn mewn perthynas â’u hawliau dynol, ac fe fydd modd i’r Adran Gwaith a Phensiynau herio’r penderfyniad yn y Goruchaf Lys.

Trais domestig

Cafodd yr un rhesymau eu defnyddio wrth farnu o blaid dynes sengl arall sy’n byw mewn tŷ cyngor tair ystafell sy’n cynnwys ystafell ddiogel i’w gwarchod hi rhag cynbartner oedd yn ymosod arni.

Roedd yr ystafell ddiogel honno’n cael ei chyfrif fel ystafell sbâr.

Barnodd y Llys Apêl fod y penderfyniad i amddifadu’r ddau deulu o ran o’u budd-dal tai yn anghyfreithlon.

Dywedodd Paul Rutherford wrth y BBC ei fod yn croesawu penderfyniad y Llys Apêl gan ychwanegu y byddai “pobl eraill yn elwa o’r penderfyniad yma hefyd.”