Tonnau yn Aberystwyth ddydd Mawrth
Mae gweddillion Storm Jonas wedi achosi problemau ledled Cymru unwaith eto heddiw gyda glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi tri rhybudd coch am lifogydd, yn Nyffryn Conwy ger Llanrwst, Bro Ddyfi, rhwng Derwenlas a Machynlleth ac yn Sir Gaerfyrddin ger pentrefi Capel Dewi a Nantgaredig.
Mae’r corff hefyd wedi cyhoeddi 32 rhybudd melyn ‘byddwch yn barod’ am lifogydd, ledled Cymru.
Yn ôl Cyngor Conwy, mae Ffordd Tan yr Ysgol yn Llanrwst ar gau ac mae’r B5106 rhwng Llanrwst a Threfriw wedi cau hefyd oherwydd y llifogydd. Mae’r Gwasanaeth Tan wedi bod yn ceisio symud car a oedd wedi mynd yn sownd yn y dŵr.
Mae’r A487 ger Afon Dyfi hefyd wedi cau ac ar yr A55, mae cyfyngiad cyflymder o 20mya ar Bont Britannia oherwydd y gwynt cryf.
Dywed Scottish Power bod tua 50 o gartrefi wedi colli eu cyflenwad trydan yng Nghaernarfon yn ardal LL55 ond bod peiriannwyr yn gweithio yno ar hyn o bryd a’u bod yn gobeithio ei adfer erbyn amser cinio.
Yn Llandudno, fe wnaeth ffenestri mewn caffi a thafarn yn y dref dorri oherwydd y gwyntoedd cryfion ddoe.