Y sticeri
Mae un o brif weisg Cymru wedi penderfynu herio penderfyniad Llywodraeth Prydain i gynnwys baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru drwy werthu sticeri baner y Ddraig Goch i’w rhoi yn eu lle.
Fel protest yn erbyn y baneri Prydeinig, mae gwasg Y Lolfa wedi cynhyrchu sticeri draig goch fydd yn addas i’w gludo ar ben Jac yr Undeb.
Yn 2014, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd baner yr Undeb yn ymddangos ar bob trwydded yrru newydd, ger baner yr Undeb Ewropeaidd ar drwyddedau gyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.
Bwriad y cynllun hwn oedd i ‘gryfhau teimlad o undod’ ymhlith pobol ynysoedd Prydain yn sgil amheuon cynyddol dros aelodaeth y Deyrnas Unedig yn Ewrop.
Ond cafodd y penderfyniad feirniadaeth gref gan bobol nad oedd yn cyfri eu hunain yn Brydeinwyr a sefydlwyd deiseb yng Nghymru gyda dros 6,500 o bobol yn ei llofnodi.
‘Gorfodi’ Prydeindod
“Rydym yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hon,” meddai Fflur Arwel, pennaeth marchnata y Lolfa. “Nid oes gan bobl y dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry.”
Ysgrifennodd un cwsmer, Meurig Parri, at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) haf diwethaf i gwyno wedi iddo dderbyn ei drwydded newydd gyda Jac yr Undeb arno.
“Dyma’r drwydded newydd yn cyrraedd gyda Jac yr Undeb arno. Cymro ydwyf i, a baner fy nghenedl yw’r Ddraig Goch, nid Jac yr Undeb,” meddai.
“Mae croeso i bobl yn Lloegr dalu teyrngarwch i Jac yr Undeb os dyma yw eu dymuniad, ond ‘dw i’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw ymgais i’m gorfodi i wneud yr un peth.
“Dyna beth mae Llywodraeth Llundain yn trio gwneud trwy fynnu bod Jac yr Undeb ar y drwydded yrru. Gweithred wleidyddol bur, gan ddefnyddio dogfen a ddylai fod y tu allan i wleidyddiaeth yn llwyr.”
Derbyniodd Meurig Parri ymateb i’w gwyn gan y DVLA yn esbonio mai ymgais y Llywodraeth yn San Steffan oedd ceisio ‘cryfhau’r teimlad o undod cenedlaethol.’
Pris pecyn o chwe sticer draig goch yw £2 ac maen nhw ar werth mewn siopau llyfrau ac ar wefan Y Lolfa.