Llwyddodd y Gwasanaeth Ambiwlans i ymateb i fwy na 72% o alwadau o fewn wyth munud lle’r oedd bywydau cleifion mewn perygl fis Rhagfyr y llynedd.
Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ambiwlans y ffigurau ddydd Mercher ar ddiwedd y trydydd mis o gynllun peilot blwyddyn o hyd sy’n arbrofi gyda newidiadau i’r modd y mae’r Gwasanaeth yn ymateb i alwadau brys.
Mae’r ffigurau’n dangos bod hanner y galwadau brys lle’r oedd bywydau cleifion mewn perygl wedi derbyn ymateb o fewn pum munud.
Y disgwyl yw bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn gallu ymateb i 65% o’r achosion mwyaf difrifol o fewn wyth munud.
Er bod cynnydd o 2.3% yn nifer yr achosion brys bob dydd sy’n gofyn am ymateb gan y Gwasanaeth Ambiwlans – 1,251 o alwadau dyddiol ar gyfartaledd – yr amser ymateb ar gyfartaledd ar gyfer yr achosion hyn oedd pum munud 13 eiliad.
Cafodd mwy nag 80% o alwadau brys ymateb o fewn 10 munud.
Daw’r ffigurau diweddaraf wrth ddisgwyl am gyhoeddi data newydd i fesur gofal cleifion.
‘Calonogol’
Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae’n galonogol i fi weld fod cyfran mor uchel o gleifion a chanddyn nhw angen ar unwaith am ymateb gan y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth glinigol pan fo’i hangen fwyaf arnyn nhw.”
Er hynny, fe dynnodd sylw at yr angen i wella perfformiad byrddau iechyd Powys a Hywel Dda.
‘Amrywiaeth anferth’
Yn ei hymateb hithau, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams fod yr amrywiaeth yn yr amserau aros o un bwrdd iechyd i’r llall yn “anferth”.
Cafodd 75.9% o alwadau brys ymateb o fewn wyth munud yn Abertawe Bro Morgannwg, tra mai 60.3% yn unig a gafodd ymateb ym Mhowys.
Mewn datganiad, dywedodd Kirsty Williams: “Mae’r gwahaniaethau rhwng amserau ymateb ledled Cymru’n amlwg yn parhau’n fater o bwys sylweddol.
“Ni all fod yn iawn fod cleifion ym Mhowys lawer llai tebygol o gael ambiwlans ar frys na chleifion yn Abertawe.
“Mae angen i weinidogion Llafur ymateb i’r anghydbwysedd yma’n gyflym.
“Mae’n amlwg fod ardaloedd gwledig yn cael eu methu gan Lafur gan nad yw Powys na Hywel Dda yn eu cyrraedd er bod y targedau hyn yn haws i’w cyrraedd.
“Ni all ein cymunedau gwledig barhau i gael gwasanaeth iechyd eilradd.”