Wythnos y Glas eleni oedd y “waethaf mewn 16 mlynedd” i un dafarn ym Mangor.

Yn ôl Rascals, sy’n far myfyrwyr ym Mangor Uchaf, mae’r gefnogaeth ers i fyfyrwyr ddychwelyd wedi bod “reit wael” eleni.

Mae cymdeithas wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, meddai rheolwr y bar, a myfyrwyr yn fwy tebygol o yfed yn eu neuaddau cyn mynd allan.

Dywed perchennog tafarn arall ei fod yntau wedi cael llai o gefnogaeth gan fyfyrwyr Cymraeg eleni.

Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod pobol ifanc yn yfed llai, ac yn yfed yn llai aml na chenedlaethau hŷn hefyd.

Yn 2019, er enghraifft, dywedodd 26% o bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed yng ngwledydd Prydain nad oedden nhw’n yfed o gwbl.

‘Lot wedi newid’

Er eu bod nhw’n falch o weld myfyrwyr yn dychwelyd, dywed Craig Owen, rheolwr Rascals, nad oedd nosweithiau Wythnos y Glas yn wych eleni.

“Rydyn ni’n far myfyrwyr felly mae’n wych eu cael nhw’n ôl ond hyd yn hyn mae’r turnout wedi bod reit wael gan ffreshyrs,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yma ers 16 mlynedd, a hon oedd yr Wythnos y Glas waethaf mewn 16 mlynedd.

“Gaethon ni gwpwl o nosweithiau da, ond ar y cyfan doedden nhw ddim yn wych – oni bai am Clwb Cymru, roedden nhw’n dda.”

Wrth ystyried pam nad oes cymaint o fyfyrwyr yn ymweld â’r bar eleni, dywed nad yw’n siŵr ond fod cymdeithas wedi newid yn y bum mlynedd ddiwethaf, “yn enwedig ers Covid”.

“Mae yna bobol sydd heb fod allan mewn tafarn o’r blaen,” meddai.

“Mae lot wedi newid ym Mangor, does yna ddim i ddod â nhw i Fangor – mae’r ddinas yn run down.

“Mae [cwrw] archfarchnadoedd draean pris tafarndai, felly maen nhw’n mynd i’r archfarchnad, yfed yn eu neuaddau – mae amser wedi newid yn anffodus, mae’n rhaid i ni newid efo’r amser.

“Fyddan ni’n iawn, rydyn ni wedi bod yma ers ugain mlynedd.”

‘Arian yn dynn’

Dywed Patrick Barry, perchennog Patrick’s Bar, ei fod yntau’n gweld bod mwy o fyfyrwyr yn cael partïon yn eu tai nawr hefyd.

“Fe wnaethon ni gael gig Cymraeg yma ar noson rali annibyniaeth i gyd-fynd â’r rali, ond gaethon ni ddim myfyrwyr Cymraeg yma – gaethon ni hen fyfyrwyr Cymraeg yma, o’r bandiau ac ati,” meddai wrth golwg360.

“Mae lot o’r myfyrwyr nawr yn cael partïon yn eu neuaddau, achos bod arian yn dynn – mae gen i noson meic agored heno a pheint ond yn £1.50 er mwyn trio cael pobol yma.

“Dros y ffordd i fi, mae’r hogiau rygbi ac maen nhw’n yfed yn y tŷ yn bennaf.”

‘Angen digwyddiad i bobol ddod am beint’

Ar y llaw arall, dywed tafarn y Glôb eu bod nhw wedi bod yn lwcus bod myfyrwyr Cymraeg a chriwiau newydd o fyfyrwyr mae’r dafarn yn eu cefnogi wedi bod yn cynnal digon o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos, a’u bod nhw wedi bod yn iawn o ran prysurdeb.

“Dw i wedi sylwi bod angen ryw ddigwyddiad, er enghraifft crôl neu ddigwyddiad arbennig, i fyfyrwyr ddod allan am beint, dw i’n meddwl mai dyna ydy’r newid mwyaf,” meddai Non Edwards, sy’n cyd-redeg y Glôb.

“Mae’r syniad o jyst mynd am beint, dydy o ddim yn digwydd.

“Dyna wnes i sylwi’r llynedd ond dydy’r myfyrwyr heb setlo’n iawn [eto] i weld os ydy’r un peth yn wir flwyddyn yma.”

‘Wastad yn denu myfyrwyr’

Dywed tafarn y Belle Vue ym Mangor Uchaf fod y gefnogaeth wedi bod yn debyg iawn i flynyddoedd blaenorol, hefyd.

“Rydyn ni’n far myfyrwyr felly rydyn ni yn denu nhw, ac rydyn ni wastad yn cael myfyrwyr felly does yna ddim llawer o wahaniaeth,” meddai Rachel wrth golwg360.

“Mae’r gefnogaeth yn tueddu i aros rhywbeth tebyg o flwyddyn i flwyddyn.”