Fe fydd y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru’n cyflwyno mesurau newydd am y tro cyntaf i fesur profiad cleifion wrth iddyn nhw dderbyn gofal.

Bydd 24 o fesuryddion yn mesur gofal clinigol, ymyrraeth ddigonol a phrofiadau cleifion, ac mae disgwyl i’r set gyntaf o ddata gael ei chyhoeddi’n ddiweddarach ddydd Mercher.

Ymhlith y data cyntaf fydd gwybodaeth am ofal clinigol, effeithlonrwydd gweithrediadau a phrofiadau cleifion o dderbyn triniaeth gan y Gwasanaeth Ambiwlans.

Fis Hydref y llynedd, cafodd targed wyth munud ei chyflwyno ar gyfer achosion lle’r oedd bywyd claf mewn perygl.

Ond roedd disgwyl i bob claf arall gael asesiad o’u hanghenion er mwyn eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir.

Bydd y data yn mesur:

  • Perfformiad staff y Gwasanaeth Ambiwlans wrth drin cleifion ag anafiadau i’r glin
  • Amserau trosglwyddo cleifion i ofal yr ysbyty
  • Canran y cleifion sy’n derbyn gofal digonol ar ôl cael trawiad ar y galon
  • Pa mor aml y caiff anghenion cleifion eu datrys dros y ffôn
  • Nifer y galwadau sy’n cael eu hateb gan ymatebwyr cyntaf
  • Nifer yr achosion sy’n galw am driniaeth yn y fan a’r lle gan y Gwasanaeth Ambiwlans
  • Canran y cleifion strôc sy’n cael eu hasesu ac sy’n derbyn triniaeth cyn cyrraedd yr ysbyty
  • Nifer y galwadau sy’n cael eu derbyn gan gleifion rheolaidd