Jane Dodds yn paratoi ar gyfer ei thaith i Calais
Mae un o ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad wedi galw am wneud Cymru’n ‘Genedl Llochesu’ i ffoaduriaid sydd wedi ffoi o wledydd fel Syria ac Irac.
Bydd Jane Dodds, sy’n ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Drefaldwyn, yn teithio i ‘Jyngl’ Calais, lle mae miloedd o fewnfudwyr a ffoaduriaid yn byw mewn pebyll yno.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cymorth i ffoaduriaid a defnyddio ei phwerau datganoli i sicrhau bod ffoaduriaid yn cael eu trin â pharch a gofal ledled y wlad.
Dywedodd hefyd fod angen monitro cynlluniau adleoli ffoaduriaid yn gyson a helpu ceiswyr lloches i fod yn rhan o gymunedau lleol.
Angen croesawu ffoaduriaid
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan bod Cymru yn Genedl Llochesu, i anfon neges i’r byd bod croeso i ffoaduriaid fan hyn,” meddai.
Bydd Jane Dodds, a oedd yn arfer gweithio i’r Cyngor Ffoaduriaid, yn mynd i Calais i ddarparu sachau cysgu a tharpolin ar ran trigolion Sir Drefaldwyn.
“Gan fy mod wedi gweithio i’r Cyngor Ffoaduriaid, rwyf wedi gweld argyfwng dyngarol fel hyn yn uniongyrchol a dw i’n gwybod bod nifer fawr o bobol angen help, diogelwch a bywyd newydd ar fyrder.”
Galw am gynnig lloches i 3,000 o blant amddifad
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron eisoes wedi galw ar y DU i gynnig lloches i 3,000 o blant amddifad sy’n ffoaduriaid.