Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Gwympo eleni (Medi 18-22), mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r cynlluniau sydd ar gael i drigolion.

Mae Môn Actif, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cynnig rhaglenni ymarfer corff sydd wedi’u dylunio i wella cydbwysedd ac atal codymau.

Mae’r sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal heddiw (dydd Gwener, Medi 22) rhwng 11yb-12:30yh yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni.

Bydd gwybodaeth gan dimau gofal eraill ar gael ar ôl y sesiwn, yn ogystal â chyfle i gael paned a sgwrs.

Mae cannoedd o bobol wedi elwa o’r rhaglenni ers iddyn nhw gael eu sefydlu rai blynyddoedd yn ôl.

Maen nhw wedi helpu i wella hyder a symudedd pobol, ac wedi ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gwblhau tasgau dyddiol.

Cynyddu hyder a symudedd – a heneiddio’n dda

Yn ôl John Earnshaw, Rheolwr Llesiant a Ffitrwydd, mae’r dosbarthiadau’n helpu pobol i beidio syrthio, beth i’w wneud os ydyn nhw’n syrthio, ac mae hefyd elfen gymdeithasol.

“Rydym yn cynnig sesiynau cymorth wythnosol a chyfleoedd i bobol Ynys Môn gynyddu eu hyder a’u symudedd; a heneiddio’n dda,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n bwysig codi hyder oherwydd mae codi hyder am arwain at lai o bobol yn cwympo, gobeithio, dyna ydy’r gobaith.

“Hefyd, mwy o hyder mwy o bosibiliad bod pobol actually yn dod i’r dosbarthiadau rydym yn eu cynnig, sydd hefyd yn lleihau’r tebygolrwydd o gwympo a chynyddu’r elfen gymdeithasol o bethau, sy’n beth mawr hefyd.

“Mae’r pethau rydym ni yn eu dysgu hefyd yn eu dysgu nhw i godi oddi ar y llawr os maen nhw yn syrthio, ddim jest stopio syrthio ond beth i’w wneud os maen nhw’n syrthio.”

Osgoi syrthio

Yn ôl John Earnshaw, mae camau y gellir eu cymryd i osgoi syrthio hefyd.

“Y ffordd gorau o osgoi syrthio ydy un ai gwella’u balans nhw neu osgoi bod mewn sefyllfa lle maen nhw am syrthio,” meddai.

“I helpu hynny, os maen nhw’n gwisgo’r pethau cywir ar eu traed, os maen nhw’n gweld yn iawn le maen nhw’n mynd, ac os maen nhw’n ymwybodol o beth sydd o gwmpas nhw.

“Cymysgedd o fod yn ymwybodol o beth sydd o’u cwmpas nhw, a chael y balans i gywiro pethau os maen nhw’n colli balans.”

Partneriaeth

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau bod pobol yn cael y cymorth gorau sydd ar gael iddyn nhw.

“Fel Cyngor Sir, rydym yn ffodus iawn bod gennym bartneriaeth mor gadarnhaol gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Trydydd Sector,” meddai wedyn.

“Mae’r cydweithio rhwng swyddogion arbenigol o’r Bwrdd Iechyd a Môn Actif yn sicrhau bod cynlluniau ymarfer corff a chymorth o’r radd flaenaf ar gael i drigolion Ynys Môn.”

Y thema ar gyfer wythnos atal codymau eleni ydi “Codi Ymwybyddiaeth, Atal Codymau”.

Dydy syrthio ddim yn rhan anochel o heneiddio, ac mae hyrwyddo sut i atal codymau yn rhan o’r Strategaeth Heneiddio’n Dda 2022-2027.

Ar ddiwedd yr wythnos, mae’r Cyngor wedi diolch i’r holl staff am eu gwaith ac am “weithio’n barhaus i sicrhau bod Ynys Môn yn Ynys Oed Gyfeillgar”.