Bydd modd i berchnogion newydd campws Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio’r adnoddau’n llawn, meddai’r brifysgol.

Daw hyn yn dilyn cadarnhad fod y campws ar werth am £4m.

Wedi’i leoli ar dir uchel o fewn dwy filltir i ganol y dref, mae’r campws yn cynnwys pedwar adeilad cynradd ar ryw ugain erw o dir sydd ar werth er mwyn i berchnogion newydd gael gwneud mwy o ddefnydd ohono.

Mae cyfleusterau lleol ar gael gerllaw ym Mhenparcau a Llanbadarn Fawr, gyda gwasanaeth bws rheolaidd i Primrose Hill a’r orsaf drenau sy’n hwyluso teithiau i Fachynlleth, Amwythig a thu hwnt.

Diffyg defnydd digonol

Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol, dydy’r campws ddim yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol bellach, a bydd yn gallu cael ei “ddefnyddio’n llawn gan berchnogion newydd.”

“Bydd darpar brynwyr yn nodi bod tua dwy erw o dir yng nghanol y campws ym mherchnogaeth Coleg Ceredigion, ac felly wedi’i eithrio o’r gwerthiant,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol wrth golwg360.

“Mae ffocws strategol y brifysgol ar dyfu ein darpariaeth addysgu ar Gampws Penglais, yn unol â’n hamcan i barhau i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.

“O ganlyniad, mae’r defnydd o le ar gampws Llanbadarn wedi cael ei leihau’n sylweddol dros nifer o flynyddoedd.

“Drwy werthu safle Llanbadarn, bydd y Brifysgol yn lleihau’r defnydd o adnoddau i gynnal asedau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol, ac yn gyfle i’r tiroedd hyn sydd wedi’u gwasanaethu’n dda ar gyrion Aberystwyth gael eu defnyddio’n llawn gan berchennog newydd.”