Cafodd pedwar o bobol eu hachub o adeilad a oedd ar dân yn Abertawe prynhawn ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fflatiau Coastal Housing yn Stryd y Gwynt yn y ddinas toc wedi 12.30 prynhawn dydd Llun.

Ni chafodd unrhyw un o’r pedwar eu hanafu.

Roedd criwiau tân o Abertawe, Treforys, Gorseinon a Phontarddulais wedi cael eu galw yno.

Bu’r safle ynghau am gyfnod ond mae bellach wedi ail-agor.