Huw Irranca-Davies
Mae Huw Irranca-Davies wedi ymddiswyddo fel cadeirydd pwyllgor amgylchedd y Senedd.

Roedd AS Llafur dros Ogwr wedi ysgrifennu at lefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow i roi gwybod iddo am ei benderfyniad.

Wrth gyhoeddi’r newydd i Dy’r Cyffredin dywedodd John Bercow: “Rwy’n gwybod y bydd y Tŷ yn dymuno ymuno a mi i fynegi ein gwerthfawrogiad o’r ymrwymiad a’r angerdd sydd wedi cael ei ddangos gan y gŵr anrhydeddus tuag at waith y pwyllgor ers iddo ddechrau fel cadeirydd yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol.”

Fe fydd enwebiadau ar gyfer olynydd Huw Irranca-Davies yn gorfod cael eu cyflwyno ers 5yh ar 8 Chwefror.

ASau Llafur yn unig sy’n cael bod yn ymgeiswyr ac os oes mwy nag un ymgeisydd yna fe fydd pleidlais ar 10 Chwefror.

Huw Irranca-Davies  yw ymgeisydd Llafur Cymru dros Ogwr yn etholiadau’r Cynulliad.