Dr John S Davies
Mae’r Dr John S Davies, a oedd yn uwch-ddarlithydd mewn Cemeg Organig ym Mhrifysgol Abertawe, wedi marw.

Bu’n weithgar iawn yn hybu addysg Gymraeg yn Abertawe, yn enwedig gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd ei addysg gynnar yn Sir Gaerfyrddin ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Abertawe.

Bu’n Deon y Gyfadran Wyddoniaeth, ac yn aelod ar Gyngor y Gymdeithas Gemegol Frenhinol.

Fe dreuliodd gyfnod hefyd yn Gymrawd ôl-Ddoethuriaeth yn Sefydliad Technoleg Massachusetts.

Roedd hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Peptid a Phrotîn Ewrop ac ar Banel Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2012, enillodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg, gan ddweud ei fod yn “anrhydedd fawr.”

Dywedodd wrth BBC Cymru ar y pryd: “Dwi wedi bod yn un o griw o bobl sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw’r iaith Gymraeg yn hyblyg er mwyn i ni Gymreigio gwyddoniaeth a thechnoleg.”