Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei bod yn “gwbl echrydus” fod ceiswyr lloches yng Nghaerdydd wedi cael eu gorfodi i wisgo bandiau coch ar eu harddwrn er mwyn hawlio prydau bwyd.

Cafodd y bandiau eu rhoi i geiswyr lloches sy’n aros yn Lynx House yng Nghaerdydd fel eu bod yn gallu cael brecwast a chinio.

Ond mae’n ymddangos bod  cwmni Clearsprings Ready Homes, sy’n darparu llety ar gyfer ceiswyr lloches ar ran y Swyddfa Gartref, wedi gwneud tro pedol yn dilyn beirniadaeth chwyrn.

 ‘Cwbl annerbyniol’

Dywedodd Carwyn Jones:  “Mae’n gwbl echrydus yn fy meddwl i fod ceiswyr lloches yng Nghaerdydd wedi cael cais i wisgo band o gwmpas eu harddwrn er mwyn cael bwyd.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn groes i’r cyfan ry’n ni o’i blaid fel cenedl. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Clearsprings ynglŷn â hyn ac rwy’n disgwyl i’r Swyddfa Gartref gymryd camau ar unwaith.

“Byddaf yn cysylltu â nhw heddiw i nodi ein pryderon dwys am y mater.”

Dywedodd Jo Stevens Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd a llefarydd cyfiawnder y blaid, ei bod wedi mynegi ei “phryderon difrifol” wrth Clearsprings Ready Homes a bod yr arfer “am ddod i ben” heddiw yn dilyn trafodaethau gyda’r contractwyr.

Mae’r cwmni wedi dweud y bydd cardiau adnabod yn cael eu cyflwyno yn lle.

Roedd grwpiau hawliau dynol hefyd wedi condemnio’r polisi gan ddweud ei fod yn adlais o’r sêr melyn y cafodd Iddewon eu gorfodi i wisgo gan y Natsïaid yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y bandiau yn gwneud y ceiswyr lloches yn dargedau, fel sydd wedi digwydd yn Middlesbrough ar ôl i ddrysau ffrynt cartrefi ceiswyr lloches gael eu paentio’n goch.


‘Gwarthus’

Dywedodd Hannah Wharf o Gyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) ei bod wedi codi’r mater sawl gwaith gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae’n warthus… mae’n trin pobl fel anifeiliaid sy’n ciwio i gael bwyd,” meddai.

Yn ôl Clearsprings Ready Homes roedd y polisi wedi dod i rym yn sgil y cynnydd yn nifer y ceiswyr lloches.

‘Cwestiynau difrifol’

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud y dylai’r Swyddfa Gartref wynebu “cwestiynau difrifol” ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghaerdydd ac y byddai’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i gael sicrhad na fyddai’r arfer yn cael ei weithredu unrhyw le arall yn y DU.