Dylai gweithwyr ar gyflog isel gael amddiffyniadau cyfreithiol ychwanegol i wella eu cyflogau a sicrwydd swyddi, medd melin drafod flaenllaw.

Mae’r Resolution Foundation eisiau “cytundebau gwaith da” rhwng cwmnïau yn y sector preifat a gweithwyr mewn diwydiannau sy’n dioddef o gyflog isel ac amodau gwaith gwael.

Mae gofal cymdeithasol yn ddiwydiant sydd angen sylw “brys” dros wledydd Prydain, meddai’r adroddiad.

Wrth ymateb i’r gofynion gan y Resolution Foundation, dywedodd nyrs o Ddyffryn Nantlle wrth golwg360 ei bod hi’n teimlo bod amodau a thelerau gwaith gofalwyr yn wael a’r cyflog yn “isel”.

“Dydy trigolion gwledydd y Deyrnas Unedig ddim yn fodlon gweithio mewn cartrefi gofal, yn enwedig ers Covid oherwydd eu bod wedi sylweddoli mai ychydig iawn o gyflog gewch chi,” meddai Madeleine Beattie, sy’n dod o Dalysarn ac yn gweithio fel nyrs mewn cartref gofal, wrth golwg360.

“Dydych chi ddim yn cael llawer o ddiolch amdano.

“Rydych chi’n gweithio’n galed.

“Mae’n heriol bob dydd, mae’n rhaid i chi weithio oriau hir, anghymdeithasol.”

‘Dibrisio’

Dywedodd bod gweithio ar isafswm cyflog yn gwneud i bobol “deimlo’n ddiwerth” a theimlo fel eu bod nhw’n cael eu dibrisio, ac felly’n gadael y sector.

“Gyda chostau popeth yn codi, dw i’n meddwl y gallai’r llywodraeth roi rhywbeth i roi ychwanegiad ar eu cyflog,” meddai.

“Byddai hyn yn galluogi’r cartrefi gofal i ryddhau gwelyau ysbyty a darparu gofal o ansawdd da.

“Mae’n rhaid i ni gael pobol i mewn i gartrefi gofal i’w cael allan o ysbytai i ryddhau’r gwelyau yn yr ysbytai.

“Ar hyn o bryd, maen nhw’n llawn o bobol sy’n blocio gwelyau oherwydd nad ydyn nhw’n gallu darparu’r gofal hwnnw yn y gymuned ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd hefyd bod yna brinder pobol leol yn ymgymryd â’r gwaith, ac er bod diolch i fyfyrwyr rhyngwladol am wneud y gwaith mae yna gyfyngiad ar ba mor hir y gallan nhw aros yn y swydd.

“Erbyn i bobol gael eu hyfforddi’n dda, maen nhw’n barod i fynd eto.

“Os nad oes ganddynt nawdd, fedran nhw ddim aros.

“Mae staff yn newid yn rheolaidd mewn cartrefi gofal, ac mae prinder pobol leol.”

‘System newydd i ddiogelu’r gweithlu’

Wrth drafod galwadau’r Resolution Foundation, dywedodd un o’u huwch-economegwyr bod cyflogau anghyfreithlon o isel ac amodau gwaith peryglus wedi arwain at brinder staff a system ofal sy’n “agos at ddymchwel”.

“Rydyn ni angen pwyslais newydd ar gytundebau gwaith da, arloesol gan ddod â gweithwyr a chynrychiolwyr cyflogwyr ynghyd yn y sectorau mwyaf heriol er mwyn gosod safonau cyfreithiol newydd a gwella ansawdd gwaith,” meddai Hannah Slaughter.

Ychwanegodd y felin drafod y dylai llywodraethau ddysgu gan wledydd sydd wedi creu cyrff ar gyfer sectorau penodol i ddelio â safonau gweithwyr.

Er enghraifft, mae gan Iwerddon bwyllgorau llafur ym maes lletygarwch, manwerthu a gofal plant.

Ychwanegodd Hannah Slaughter bod angen system newydd i ddiogelu’r gweithlu er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn economi gwledydd Prydain, lle mae aelodaeth undebau llafur yn gostwng a chytundebau sero awr yn dod yn fwyfwy cyffredin mewn sectorau fel gofal cymdeithasol.