Mae chwarter poblogaeth Cymru’n bwyta prydau llai neu’n methu prydau’n llwyr er mwyn arbed arian, medd ymchwil newydd.

Roedd 15% o aelwydydd Cymru’n cael trafferth talu am eitemau hanfodol fis Gorffennaf, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Cafodd yr ymchwil ei wneud ar ran y Bevan Foundation, ac mae’n dangos mai ychydig o gynnydd sydd wedi bod wrth leihau effaith yr argyfwng costau byw.

Ym mis Ionawr 2023, dywedodd 14% o aelwydydd Cymru eu bod nhw’n cael trafferth talu am nwyddau hanfodol.

Dangosa’r ymchwil hefyd bod 29% o bobol yn benthyg arian, a 13% ar ei hôl hi gyda biliau.

Yr unig faes lle mae pethau wedi gwella ydy’r ganran o bobol sy’n dweud eu bod nhw wedi mynd heb gynhesu eu cartrefi.

Yn y tri mis hyd at Ionawr 2023, dywedodd 39% eu bod nhw wedi mynd heb gynhesu eu tai. Gostyngodd hynny i 27% yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf.

Fodd bynnag, gallai’r ganran hwnnw godi eto wrth i’r tymheredd ostwng gan fod llai o bobol yn cynhesu eu tai dros y gwanwyn a’r haf beth bynnag.

‘Llai o gymorth’

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan bod yna bryderon y gallai’r heriau fod yn waeth dros y gaeaf hwn gan fod llai o gymorth ar gael i bobol.

“Wrth i chwyddiant ddechrau arafu o’r diwedd, efallai bod gobaith bod y gwaethaf tu ôl i ni,” meddai.

“Fodd bynnag, mae ein darganfyddiadau diweddaraf yn dangos nad ydy pethau’n gwella ar lawr gwlad, ac i filoedd o bobol mae bywyd yn dal i fod yn anodd ofnadwy.

“Yn ystod pandemig Covid-19 a gaeaf 2022 fe wnaeth llywodraethau’r Deyrnas Unedig, Cymru a rhai lleol ddarparu cefnogaeth sylweddol i amddiffyn pobol.

“Hyd yn hyn, mae’r gefnogaeth sydd wedi’i addo ar gyfer y gaeaf hwn yn sylweddol is.

“Gyda dim arwyddion bod yr argyfwng costau byw yn gwella, nid nawr yw’r amser i gymryd cam yn ôl.”

‘Yr un mor ddrwg â llynedd’

Dangosa’r ymchwil hefyd mai pobol ar fudd-daliadau, rhentwyr, pobol ag anableddau a rhieni â phlant dan 18 oed sy’n dioddef waethaf.

Dywedodd 49% o bobol ar Gredyd Sylfaenol eu bod nhw wedi methu prydau neu’n bwyta prydau llai, gyda’r un yn wir i 48% o rentwyr preifat a 46% o bobol ag anableddau sy’n eu “cyfyngu’n arw”.

Rhwng mis Ebrill a Gorffennaf, fe wnaeth 47% o deuluoedd â phlant dan 18 oed fenthyg arian, medd yr arolwg.

Wrth ymateb i’r data diweddaraf, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winckler, eu bod nhw’n dangos pa mor bwysig ydy hi i bob lefel o lywodraeth ymateb dros y misoedd nesaf a chefnogi pobol gyda chostau byw.

“Mae’r argyfwng yr un mor ddifrifol â’r llynedd, gyda’r aelwydydd sy’n cael eu heffeithio waethaf angen help os ydyn nhw am allu bwyta a chadw’n gynnes dros y misoedd nesaf.”

Cafodd yr ymchwil ei wneud drwy holi 1,055 o oedolion yng Nghymru rhwng Gorffennaf 21 a 26 2023.