Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys themâu all beri gofid.
Mae dynes wnaeth golli plentyn yn chwe wythnos oed yn sgrifennu am ei phrofiadau er mwyn bod o gymorth i rieni eraill yn yr un sefyllfa.
Collodd Delyth Ann Jones, sy’n byw yn Neiniolen ger Caernarfon, ei mab, Owain, 23 mlynedd yn ôl.
Dechreuodd flog, Life After Losing a Child, yn rhannol er mwyn rhoi gobaith i rieni eraill sydd wedi colli plentyn.
“Mae yna fywyd ar ôl, jest bod o’n wahanol i beth roeddet ti wedi’i gynllunio,” meddai Delyth, sydd wedi cael dau blentyn ac wedi maethu un wedyn, wrth golwg360.
Er bod meddygon wedi canfod problem gydag un o arennau Owain tra’r oedd Delyth yn feichiog a’i fod yn aros i dynnu’r aren, doedden nhw ddim yn credu bod y sefyllfa’n bygwth ei fywyd.
Cafodd achos marwolaeth Owain ei nodi fel syndrom marwolaeth sydyn babanod, neu cot death, a phroblem gyda’r arennau fel achos eilradd.
“Cawsom fynd adref oherwydd roedd yn fodlon ac yn hapus,” meddai.
“Gwnes i fwydo fo am bedwar yn y bore, a deffro saith ac roedd wedi mynd.”
‘Colli dy hun’
Pan oedd pethau galetaf, roedd hi’n chwilio ar y we am sut y dylai deimlo ac o le y câi help, ac mae’r blog yn ffordd o lenwi’r bwlch hwnnw i rieni sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Dechreuodd sgrifennu am ei phrofiadau tua phum mlynedd yn ôl.
“Dw i’n teimlo os byswn wedi trio sgrifennu’r blog yn y dyddiau cynnar fyswn ddim wedi medru,” meddai Delyth, sy’n gweithio i ymddiriedolaeth sy’n ceisio diogelu Tŵr Marcwis ar Ynys Môn.
“Dw i’n cofio pan oeddwn yn mynd trwy fy amser gwaethaf, oherwydd cefais ychydig o flynyddoedd caled, chwilio am bethau fel be oeddwn i fod i deimlo, lle fedrwn i gael help.
“Roeddwn i eisiau ceisio helpu rhieni eraill i weld bod yna fywyd ar ôl.
“Yndi, mae o’n wahanol. Be dw i’n ddweud ydy ei fod yn slightly imperfect.
“Dydy o byth yn mynd i adael fi, y ffaith fy mod wedi bod trwy’r trawma yna.
“Dydy o ddim yn rhywbeth ti’n dod drosto fo, dw i’n gweld y geiriau yna’n frwnt ofnadwy, dod dros rywbeth.
“Yn enwedig efo galar plentyn, ti’n colli chdi dy hun hefyd.
“Ti byth yn mynd i fod y person wyt ti cyn i’r peth ddigwydd, dim ots faint wy ti’n trio.
“Es i am flynyddoedd yn trio cwffio i fod yn pwy oeddwn i. Ti’m yn gallu, dydy’r person yna ddim yna ddim mwy oherwydd be ti wedi bod drwyddo fo.
“Munud roeddwn yn gallu derbyn hynny roeddwn lawer gwell o ran symud ymlaen a thrio byw.
“Wrth gwrs 23 mlynedd wedyn mae Owain dal yn rhan bwysig o fy mywyd bob dydd, wneith hynny ddim newid.”
‘Derbyn ffordd o feddwl’
Mae gan y blog awgrymiadau ar sut i ddelio â sgyrsiau o ddydd i ddydd a all fod yn anodd ar ôl colled, megis sut i esbonio faint o blant sydd gennych chi.
Ynddo, mae Delyth hefyd yn trafod y pryder sydd ganddi am ddiogelwch ei phlant eraill.
“Dw i bob tro yn meddwl y gwaethaf,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod rhywbeth mawr am ddigwydd, dweud os maen nhw’n syrthio a hitio eu pen.
“Fe wnâi dal deffro rŵan a mynd i checio ar y plant, maen nhw’n 18 ac 19 oed.
“Mae o wedi bod yn anodd pan oedd y plant yn fach, ddim yn cysgu a meddwl bod bob math o bethau’n mynd i ddigwydd iddyn nhw.
“Rŵan maen nhw’n mynd i oed lle maen nhw’n mynd allan i yfed a dreifio ti’n meddwl bod rhywbeth mawr am ddigwydd.
“I fi mae wedi bod yn broses o dderbyn y ffordd dw i’n meddwl am bethau, mae hynny jest yn rhywbeth sydd ynof i a fedra i ddim newid hynny.
“Y munud derbyniais hynny, a [sylwi nad] ydy hwnnw’n mynd i ffwrdd, adeg yna y gwnaeth pethau glicio i’w lle i mi.”
‘Pobol ofn siarad’
Dydy pobol ddim yn ffeindio hi’n hawdd siarad am farwolaeth plentyn, meddai Delyth, gan ddweud ei bod hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig trafod a chydnabod bodolaeth Owain.
“Mae galar yn rhywbeth mae pawb yn wynebu yn aml, mae’n normal,” meddai.
“Oherwydd bod colli plentyn yn annormal, dydy o ddim yn fod i ddigwydd nac ydy, dydw i ddim yn teimlo bod pobol yn gallu siarad amdano fo mor rhydd.
“Fysa neb yn dod ataf i a dechrau sgwrsio am Owain, hyd yn oed 23 mlynedd yn ddiweddarach.
“Mae pobol ofn gwneud oherwydd bod nhw’n ofn ypsetio chdi.
“Dw i wedi ei wneud yn rheol ers y diwrnod cyntaf, fy mod i’n siarad yn rhydd amdano fel byswn i am unrhyw blentyn arall sydd gen i.”
‘Penderfynol o lwyddo’
Roedd dod yn rhiant maeth yn un gobaith oedd gan Delyth erioed, a chwe blynedd yn ôl fe wnaeth hi faethu hogyn chwe mis oed.
“Un o’r pethau roeddwn eisiau gwneud erioed oedd bod yn rhiant maeth ag doeddwn ddim yn meddwl bysant nhw’n gadael i mi wneud oherwydd fy mod wedi colli plentyn, essentially efo mental health record,” meddai.
“Ers hynny dw i wedi cymryd hogyn bach i mewn a dw i’n warchodwr iddo fo rŵan.
“Mae fy mywyd wedi gwneud 360, mae wedi mynd o hollol ddiobaith i fod yn benderfynol o lwyddo.”
Pan gollodd Owain, roedd Delyth yn gweithio mewn bwytai ac mae hi’n awyddus i sgrifennu er mwyn dangos i bobol ei bod hi dal yn bosib cael y bywyd maen nhw’n dymuno’i gael.
“Dw i rŵan yn 44 oed ac yn dod i ddiwedd fy MA.
“Does yna ddim byd yn anghyraeddadwy jyst oherwydd y profiad ti wedi bod drwyddo.
“Fe wnaeth gymryd amser hir iawn i mi sylweddoli hynny.”