Rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn am law trwm a llifogydd ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru a gweddill y DU dros y dyddiau nesaf.

Daw hyn wrth i weddillion storm eira Jonas daro taleithiau dwyreiniol yr Unol Daleithiau waethaf, yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae disgwyl i weddillion y storm groesi’r Iwerydd yr wythnos hon a tharo Prydain ond ar ffurf glaw yn hytrach nag eira.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am law trwm yng Nghymru ddydd Mawrth a dydd Mercher, gan rybuddio am y posibilrwydd o lifogydd yn ystod y cyfnod, wrth ddisgwyl glawiad rhwng 30-60mm.

“Fe fydd gweddillion storm eira’r UDA yn troi’n law wrth iddo daro gorllewin yr Alban a gogledd Iwerddon yn gyntaf,” meddai Charles Powell o’r Swyddfa Dywydd.

Yn ôl adroddiadau, fe fu farw 19 o bobl yn dilyn y storm eira yn yr UDA, a chofnodwyd 42 modfedd o eira yn Glengary, Gorllewin Virginia.