Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1m mewn rheilffordd ym Môn yn dilyn ymgyrch gan Virginia Crosbie, Aelod Seneddol yr ynys.

Bydd y buddsoddiad yn helpu i wella mynediad at orsaf Tŷ Croes, ac mae Virginia Crosbie a Huw Merriman, y gweinidog rheilffyrdd yn San Steffan, ar yr ynys heddiw (dydd Llun, Awst 14) i weld y problemau sydd wedi codi o ran platfform isel yr orsaf.

Cafodd ei adeiladu’n isel er mwyn cyrchu gwartheg i fynd i’r farchnad.

Pan oedd porthor yn gweithio yn yr orsaf, cyfrifoldeb hwnnw fyddai sicrhau hygyrchedd ar gyfer pobol ag anawsterau symudedd, ond gan nad oes porthor yno bellach mae’n rhaid i bobol symud y ramp drostyn nhw eu hunain neu ddibynnu ar bobol sy’n byw ger yr orsaf i’w helpu.

Codi at ateb pryderon

Cafodd y mater ei grybwyll i Virginia Crosbie gan drigolion a chynghorwyr lleol ac ers ymweliad â’r orsaf ddechrau’r flwyddyn, mae hi wedi crybwyll y mater yn San Steffan sawl gwaith, meddai.

Ar ei ymweliad diweddaraf, bu Huw Merriman yn clywed am bryderon trigolion lleol cyn cyhoeddi y byddai’n neilltuo arian ar gyfer system i newid uchder y platfform, ac mae disgwyl i’r gwaith ar y system honno gael ei gwblhau gwanwyn nesaf.

“Dw i wrth fy modd fod y gweinidog wedi cyhoeddi’r buddsoddiad pellach hwn yn ein hynys, ac yn diolch iddo am ddod i weld y broblem, am siarad â phobol, ac am wrando ar fy safbwynt fod angen gwneud rhywbeth,” meddai Virginia Crosbie.

“Bydd yn gweddnewid y sefyllfa’n llwyr ar gyfer hygyrchedd yn yr orsaf, ac mae’n dangos nid yn unig fod y llywodraeth yn gwrando, ond hefyd yn gweithredu er lles trigolion yr ynys.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld yr Harrington Hump yn cael ei osod, a byddaf yn ymweld â’r orsaf eto pan fydd yn ei le ac yn gwneud ei waith.”

Rheilffordd Amlwch-Gaerwen

Aeth Huw Merriman i Fenter Môn, Lon Las Môn a Lein Amlwch i drafod sut i ailgyflwyno’r rheilffordd rhwng Amlwch a Gaerwen.

Aeth yn ei flaen wedyn i orsaf Caergybi i gyfarfod â gyrwyr a phenaethiaid Avanti yn eu pencadlys yn y gogledd ac i ddeall problemau rheoli lleol.

“Roeddwn i’n falch o ymweld â gorsaf Tŷ Croes gyda Virginia a chyfarfod â thrigolion sy’n ymgyrchu tros fynediad platfform gwastad i’w trenau,” meddai.

“Roedd y trigolion wedi dod â’u pryderon at Virginia, oedd wedi dod â nhw ataf fi wedyn yn y senedd gan ofyn am ddatrysiad.

“Roeddwn i’n gallu dweud wrth drigolion fod Virginia wedi dod â’r mater yma ataf fi mewn cyfarfod yn y senedd, ac o ganlyniad i gais Virginia byddwn ni’n darparu datrysiad adeiladu erbyn gwanwyn 2024 fydd yn gweld rhan o’r platfform yn cael ei dynnu i fyny i wneud lle i safleoedd gwastad.

“Pob clod i Virginia am wneud i hyn ddigwydd.”

“Mae’r gweinidog yn seren am ddod i Ynys Môn a threulio cymaint o amser yma, gan fynd i sawl lleoliad i siarad am faterion pwysig gyda phobol yr ynys,” meddai Virginia Crosbie.