Bydd toiledau arfordirol Ynys Môn yn cael eu gwella o ganlyniad i gronfa newydd Llywodraeth Cymru sy’n werth £250,000.
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cyfrannu swm ychwanegol o £62,500 tuag at gost gwella’r cyfleusterau.
Bydd toiledau ar bedwar traeth ar Ynys Môn (Biwmares, Rhosneigr, Traeth Bychan a Moelfre) yn cael eu moderneiddio a’u gwella fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, Y Pethau Pwysig.
Nod cynllun Y Pethau Pwysig yw cynorthwyo i wireddu gwelliannau i seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau ymwelwyr strategol pwysig ledled Cymru.
Cyflawni’r nodau
Yn ôl y Cynghorydd Neville Evans, deilydd y Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol Ynys Môn, bydd y gwaith yn helpu i gyflawni nodau’r Cyngor, fydd o fudd i ymwelwyr a phobol leol.
“Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflawni’r nodau yn ein Cynllun Rheoli Cyrchfan a lansiwyd yn ddiweddar,” meddai.
“Yn aml, nid yw’r cyfleusterau hyn yn cael sylw, ond maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelwyr a byddant o fudd i bobol sy’n byw yn yr ardal hefyd.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i geisio mwy o gyfleoedd ariannol i wella isadeiledd pwysig o amgylch yr Ynys.”
Moderneiddio cyfleusterau
Bydd y gwaith o wella cyfleusterau toiledau cyhoeddus yn y pedwar lleoliad yn cynnwys gosod cawodydd newydd, cyfleusterau ymolchi a rheseli beiciau.
Bydd byrddau gwybodaeth newydd yn cael eu darparu hefyd i ddarparu gwybodaeth leol i breswylwyr a phobol leol.
Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, deilydd y Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i foderneiddio cyfleusterau mewn sawl ardal.
“Mae’r arian yma’n cael ei groesawu’n fawr, bydd yn ein helpu i foderneiddio mwy o’n toiledau cyhoeddus allweddol ledled yr Ynys,” meddai.
“Bydd y gwaith hwn i uwchraddio cyfleusterau’n cyd-fynd â’r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar i adnewyddu toiledau yn Nhrearddur, Benllech, Porth Swtan a Phorth Dafarch.”
Y Pethau Pwysig
Cronfa gyfalaf gwerth £5m i sicrhau gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru yw Y Pethau Pwysig, er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy trwy gydol eu harhosiad.
Mae cronfa Y Pethau Pwysig 2023-25 wedi cefnogi 29 o brosiectau ledled Cymru, gan flaenoriaethu buddsoddiad strategol mewn cyrchfannau allweddol i dwristiaid ac oherwydd hynny, mae’n agored i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn unig.