Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn rhan o gonsortiwm mawr newydd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ennill £2.5m o gyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, un o’r prif gyrff sy’n ariannu ymchwil yn y Deyrnas Unedig, gyda £639,000 yn dod i Brifysgol Bangor.
Caiff y cyllid sylweddol ei ddefnyddio i ymchwilio i effeithiau amgylcheddol posib datblygiad arfaethedig cenhedlaeth newydd o ffermydd gwynt ar y môr ar yr amgylchedd morol.
Yn sgil llwyddiant ysgubol datblygiadau ynni gwynt ar y môr fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy dros y degawd diwethaf, mae lle i gredu mai ehangu’r dull hwn o gipio ynni bedair gwaith drosodd fydd asgwrn cefn siwrnai’r Deyrnas Unedig (a llawer o genhedloedd arfordirol eraill) at gyflawni SeroNet erbyn 2050.
Er bod dros 99% o’r genhedlaeth bresennol o ddatblygiadau ffermydd gwynt y môr yn y Deyrnas Unedig yn y dyfroedd arfordirol aflonydd llanwol bas sydd o’r herwydd, yn gymysg iawn, ar gyfer yr ehangu enfawr arfaethedig, bydd angen datblygiadau mawr yn y moroedd dyfnach yn bellach o’r lan, fel sydd yn yr arfaeth eisoes ym Môr y Gogledd a’r Môr Celtaidd.
Mae gan y dyfroedd dyfnach hynny haenau o dymheredd gwahanol sy’n newid drwy’r tymhorau ac sy’n cynnal gwahanol ecosystemau/pysgod a rhywogaethau eraill.
‘Datblygu dyfroedd dyfnach’
“Er mwyn datblygu mewn dyfroedd dyfnach bydd angen dylunio sylfeini cwbl wahanol i’r tyrbinau, ac yn lle’r genhedlaeth bresennol o dyrbinau sefydlog ar wely’r môr, defnyddir llwyfannau arnofiol newydd,” meddai Dr Ben Lincoln, sy’n Gymrawd Ymchwil ôl-ddoethurol.
“Mae hynny’n codi cwestiynau ynghylch ag effeithiau posib y datblygiadau newydd hynny ar natur a’r amgylchedd.”
Caiff y moroedd sgafell eu hystyried ymhlith y moroedd mwyaf cynhyrchiol yn fiolegol ar y blaned.
Bydd yr ymchwil newydd yn archwilio effeithiau’r datblygiadau newydd ar yr ecosystemau sensitif, ac yn enwedig ôl aflonydd llif y llanw heibio’r fflotiau, a’r cymysgu cysylltiedig rhwng dyfroedd o wahanol dymereddau a halltedd.
Gallai’r datblygiadau esgor ar rai agweddau cadarnhaol ar yr ecosystem forol, megis gwrthweithio rhai o effeithiau cefnfor sy’n cynhesu.
Y gobaith yw y bydd yr ymchwil newydd yn arwain dyluniad a chynllun y datblygiadau newydd hanfodol hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy o ran gwarchod y bywyd gwyllt lleol.
A allai’r ffermydd gwynt arnofiol effeithio’n gadarnhaol ar bysgodfeydd?
Yn ogystal â gwarchod bywyd gwyllt, gallai’r datblygiadau newydd helpu i gynhyrchu pysgodfeydd newydd, fel gafodd ei gynnig mewn papur gan wyddonwyr Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor John Simpson a Paul Tett 36 mlynedd yn ôl.
‘Dros 50 mlynedd o ymchwil arloesol’
“Mae gwynt arnofiol ar y môr yn gyfle gwych i helpu’r Deyrnas Unedig gyrraedd SeroNet, ac o ran creu swyddi,” meddai Ben Lincoln wedyn.
“Mae dros 50 mlynedd o ymchwil arloesol yma yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn dangos inni y gallai gwella dyluniad y fflotiau a chynllun y ffermydd gwynt helpu lliniaru effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â helpu tyfu pysgodfeydd cynaliadwy newydd yn y rhanbarthau hynny.
“Gobeithiwn y bydd ein hymchwil arfaethedig yn helpu sicrhau’r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl a chynaliadwyedd y datblygiadau hynny.”
Mae’r ymchwil newydd yn cynnwys Tom Rippeth, Ben Lincoln, Ben Powell a Martin Austin.