Rhaid i Gymru hawlio rhagor o arian ar gyfer amaeth os yw hi am gryfhau diogelwch bwyd a mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, yn ôl Plaid Cymru.

Dywed y Blaid nad yw mynnu “dim ceiniog yn llai” ddim bellach yn ddigon.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau breision drwy fynnu tipyn mwy o arian ar gyfer amaeth os ydyn nhw’n disgwyl i’r diwydiant fynd i’r afael yn llwyddiannus â nifer o heriau.

Ar drothwy sioeau amaeth Ynys Môn, Sir Benfro, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yr wythnos hon, dywedodd Llŷr Gruffydd, llefarydd amaeth Plaid Cymru, nad yw dwyn Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i gyfrif tros addewid ôl-Brexit o “ddim ceiniog yn llai” i ffermwyr Cymru ddim bellach yn ddigon i ateb yr heriau o gryfhau diogelwch bwyd a mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.

Mae’n galw ar Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n hawlio rhagor o arian, ac yn rhybuddio bod heriau costau byw cynyddol, mwy o gostau mewnbwn sy’n wynebu ffermwyr, costau cynyddol addasiadau masnach ôl-Brexit ac anghyfleustra o fewn y gadwyn gyflenwi fyd-eang yn golygu nad yw bodloni ar lefelau ariannu’r gorffennol yn ddigonol erbyn hyn.

‘Ansicrwydd ariannol di-gynsail’

“Mae addewid maniffesto’r Blaid Geidwadol yn 2019 i gyfateb hen lefelau ariannu’r Undeb Ewropeaidd yn dal heb ei wireddu,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Mae hyn wedi gadael ffermwyr Cymru a Llywodraeth Cymru’n ymgiprys â sicrwydd ariannol di-gynsail.

“Yr hyn sy’n sicr, serch hynny, yw nad yw bodloni ar yr un lefelau hanesyddol o arian ddim bellach yn ddigon os yw gweinidogion yn Llundain a Bae Caerdydd yn disgwyl i’r diwydiant i weithredu ar eu gofynion.

“Mae Lesley Griffiths bob amser yn mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at eu haddewid o ‘ddim ceiniog yn llai’.

“Ar ôl methu â gwireddu’r addewid, rwy’n deall pam ei bod hi’n teimlo y dylai’r Ceidwadwyr orfod cadw at eu gair, ond y realiti yw nad yw lefelau ariannu blaenorol ddim yn agos at fod yn ddigon i weithredu graddfa a dwyster yr ymateb sy’n ddisgwyliedig gan y diwydiant.

“Os ydyn ni wir wedi ymroi i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, mae’n hanfodol fod y ddwy lywodraeth yn rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ffermwyr er mwyn arwain y daith tuag at allyriadau net-sero.

“Yn yr un modd, rydym yn gwybod fod rhaid i gryfhau diogelwch bwyd yn wynebu yr heriau byd-eang difrifol fod yn flaenoriaeth.

“Does dim modd gwneud hyn yn rhad.

“Mae costau wedi mynd drwy’r entrychion.

“Fyddwch chi ddim yn gweithredu blaenoriaethau heddiw ar gyllideb ddoe.

“Rhaid i’r gweinidog hybu achos amaethyddiaeth yng Nghymru ac eirioli dros lefel ariannu sy’n mynd y tu hwnt i ddyraniadau’r gorffennol.

“Mae gofyn am ‘ddim ceiniog yn llai’ yn cwympo’n brin o’r hyn sydd ei angen i weithredu diogelwch bwyd, mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a sicrhau dyfodol ffermio.”