Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Llun (Awst 14).

Mae disgwyl hyd at 40mm o law ar y cyfan, ond gallai’r ffigwr ddyblu dros gyfnod o dair i chwe awr mewn rhai ardaloedd.

Y gred yw mai’r de-ddwyrain yn unig fydd yn osgoi’r tywydd garw.

Bydd y rhybudd yn ei le tan 9 o’r gloch heno (nos Lun, Awst 14).

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am lifogydd posib, gyda’r gwaethaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin.