Mae elusennau a milfeddygon yn galw am newid y Ddeddf Cŵn Peryglus, gan feirniadu 32 o flynyddoedd o fethiant ers iddi ddod i rym.

Mae eu pryderon yn ymwneud ag un math o gi peryglus, sef yr XL Bully, gan ddweud y dylai’r brîd yma gael ei ychwanegu at y rhestr o gŵn peryglus.

Maen nhw’n dweud bod yr ymgyrch i geisio atal achosion o frathu difrifol yn cael eu heffeithio gan alwadau i wahardd un math o gi, ac mai’r cyhoedd fydd yn talu’r pris.

Dros y misoedd diwethaf, fe fu galwadau cynyddol am ychwanegu’r XL Bully at y rhestr o gŵn peryglus y mae’n anghyfreithlon bod yn berchen arnyn nhw yn y Deyrnas Unedig.

Ond mae’r galwadau’n cael eu galw’n “fethedig” ac yn “fyrbwyll”, gan ddweud na fydd eu gwahardd yn ei gwneud hi’n fwy diogel i’r cyhoedd, a bod perygl hyd yn oed y gallai waethygu’r sefyllfa.

Mae nifer o gyrff ac elusennau wedi dod ynghyd i annog y rhai sydd mewn grym i weddnewid y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chŵn peryglus.

Maen nhw eisiau symud y ffocws oddi wrth rai mathau o gŵn yn benodol, a chefnogi atebion i fynd i’r afael â’r hyn sy’n arwain at achosion o frathu ac ymddygiad bygythiol arall.

Deddfwriaeth ddim yn llwyddo

Daw’r galwadau union 32 o flynyddoedd ers i’r Ddeddf Cŵn Peryglus ddod i rym.

Er gwaethaf mwy na thri degawd o ddeddfwriaeth, mae’r achosion o frathu ymhlith cŵn yn parhau i gynyddu.

Mae hynny’n dangos nad yw canolbwyntio ar fridiau penodol yn llwyddo, ac y dylid edrych ar achosion unigol a pherchnogion anghyfrifol.

Roedd 9,366 o achosion o frathu wedi’u cofnodi gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 2022-23, i fyny o 8,819 y flwyddyn gynt.

Mae’r elusennau a mudiadau’n gofidio y bydd ychwanegu rhagor o fridiau at y rhestr o gŵn peryglus yn arwain at ddifa mwy ohonyn nhw o ganlyniad i sut olwg sydd arnyn nhw.

Yn hytrach, dylid canolbwyntio ar eu hymddygiad a thystiolaeth o’r hyn sy’n debygol o ddatrys y sefyllfa.

‘Torcalonnus a thrasig’

“Mae deddfwriaeth sy’n benodol am fridiau wedi bod mewn grym ers 32 o flynyddoedd bellach, ac mae’n dal i fethu,” meddai Dr Samantha Gaines o’r RSPCA.

“Rydyn ni’n torri’n calonnau ynghylch rhai achosion diweddar lle mae cŵn wedi brathu, sydd wedi bod yn ddigwyddiadau trasig sy’n tynnu sylw at yr angen i weithredu ar frys ac i newid dulliau gweithredu.

“Ond mae’n amlwg nad ychwanegu brîd arall o gŵn at y dull sydd eisoes yn fethedig o ran gwahardd rhai mathau o gŵn o ganlyniad i sut olwg sydd arnyn nhw yw’r ateb.

“Byddai unrhyw gam o’r fath yn gorfodi elusennau i ddifa rhagor o gŵn diniwed, ac yn cynnig haen arall i’r synnwyr diogelwch ffals i’r cyhoedd nad yw wedi llwyddo ers 32 o flynyddoedd – a fyddwn ni ddim yn sydyn yn ei weld yn gweithio nawr.”

Ymgyrch

Mae’r RSPCA bellach wedi lansio ymgyrch newydd yn annog cefnogwyr i gysylltu â’u haelodau seneddol lleol i gefnogi gweddnewid y Ddeddf Cŵn Peryglus a disodli brîd penodol.

“Yn syml iawn, dydy brîd ddim yn rhagamcan sy’n ddibynadwy o ran ymddygiad bygythiol mewn cŵn,” meddai llefarydd.

“Mae gan unrhyw gi y potensial i frathu.

“Felly, yn hytrach, mae angen datrysiadau arnom nad ydyn nhw’n gwahaniaethu – ond gan hyrwyddo perchnogaeth anifail bach cyfrifol.

“Mae gan ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i fridiau penodol bwrpas clir: lleihau nifer y brathiadau, ond mae wedi siomi’r cŵn a’r cyhoedd yr addawodd y byddai’n eu gwarchod; tra bod marwolaethau trasig yn parhau’n ddiosteg.

“Mae angen i ni beidio barnu cŵn yn annheg o ran sut olwg sydd arnyn nhw.

“Gydag etholiad cyffredinol ar y gweill, mae’n bryd i wleidyddion fod yn ddifrifol ynghylch mynd i’r afael â chŵn peryglus.”