Mae’r Athro Alan Shore wedi derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn Mawr brynhawn dydd Gwener (Awst 11).
Daw o Dredegar Newydd yng Nghwm Rhymni, a graddiodd yn gyntaf mewn mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn graddio gyda Doethuriaeth ym maes ffotoneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n derbyn y Fedal am ei gyfraniad “hyd oes” i electroneg ddigidol a’r maes cyfrifiaduraeth a chyfathrebu.
‘Gweithio’n ddiflino’
Dywedodd ei enwebiad fod yr Athro Shore “wedi gweithio’n ddiflino” er mwyn cyflwyno a datblygu Peirianneg yng Nghymru.
“Mae Alan yn wyddonydd o’r radd flaenaf sydd wedi cyhoeddi a chyflwyno gwaith ar Ffotoneg/Optoelectroneg ar draws y byd,” meddai.
“Dyma faes sydd ddim yn draddodiadol wedi bod yn amlwg yn y Gymraeg, a’r cam cyntaf oedd meithrin ac annog cymdeithas o wyddonwyr yng Nghymru er mwyn gosod sylfaen i ddatblygu’r wyddor i’r Gymraeg.”
Mae’n aelod o’r Panel Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg a Chyfrifiadura, ac fel rhan o’i waith yno mae’n anelu i sicrhau bod cymorth i ddatblygu’r Gymraeg yn y gwyddorau ac i gynyddu’r cyfleoedd i astudio a chyhoeddi gwaith yn y Gymraeg.
Mae hefyd wedi bod yn rhan o grŵp ymchwilio a chyhoeddi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2015.