“Gorau po gyntaf” y daw pobol ifanc yn rhan o drafodaethau gwleidyddol, yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, fu’n cymryd rhan mewn sesiwn gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn ddiweddar.
“Pobol ifanc fydd ein dyfodol ni fel cymdeithas”, meddai, yn dilyn y sesiwn yn Siambr y Cyngor ganol mis diwethaf.
Dyma’r chweched flwyddyn i Gyngor Ieuenctid Ceredigion gynnal digwyddiad o’r fath, ac roedd yn gyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy’n effeithio ar bobol ifanc i banel o bobol sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.
Hefyd ar y panel roedd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion; Sara Jermin, Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru; a’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.
O ganlyniad i ymgyrch ieuenctid ‘Rhoi dy Farn Ceredigion’ fis Mawrth eleni, lle gwnaeth dros 2,100 o bobol ifanc leol bleidleisio ar y pynciau llosg oedd bwysicaf iddyn nhw, cafodd cyfres o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid.
Roedd y cwestiynau’n tynnu sylw at faterion megis trafnidiaeth, yr argyfwng costau byw, addysg a chyflogadwyedd.
Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gloi gan Aled Lewis, Aelod Seneddol Ieuenctid Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain sydd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Yn arwain y digwyddiad roedd Ifan Meredith, cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr.
Llais pobol ifanc yn “hollbwysig”
Yn ôl Ben Lake, mae llais pobol ifanc, fel etholwyr ac fel y genhedlaeth nesaf, yn allweddol bwysig.
“Rwy’n credu bod ymgynghori â’r ieuenctid yn hollbwysig, â dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.
“Mae pobol ifanc yn cynrychioli carfan bwysig a sylweddol o’n hetholwyr i, ac felly os dw i am adlewyrchu eu pryderon a hefyd eu dyheadau nhw fel Aelod Seneddol, mae’n bwysig bo fi’n deall a sgwrsio gyda nhw.
“A hefyd, pobol ifanc fydd ein dyfodol ni fel cymdeithas, ac felly rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn eu bod nhw’n cael llais ac yn gallu cyfrannu at drafodaethau mwy cymunedol, cymdeithasol, oherwydd mi fyddwn ni’n gobeithio iddyn nhw chwarae rhan lawn mewn cymdeithas wrth iddyn nhw dyfu fyny.
“Felly gorau po gyntaf maen nhw’n arfer â bod yn rhan o’r trafodaethau.”
Trafnidiaeth gyhoeddus
Pwnc llosg gododd yn ystod y sesiwn oedd trafnidiaeth gyhoeddus – rhywbeth mae llawer iawn o bobol, hen ac ifanc, yn dibynnu arni i fyw eu bywydau’n llawn.
Gyda Llywodraeth Cymru yn annog pobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae Ben Lake yn credu bod dyletswydd arnyn nhw i wneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael mewn ardaloedd gwledig.
“Mae nifer o bobol ifanc yn dibynnu un ai ar eu rhieni neu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynychu clybiau ar ôl ysgol, gweld ffrindiau a hefyd am gyfiawn waith,” meddai.
“Mae hwnnw’n bwnc llosg.
“Y gwendid mwyaf sydd gyda ni yng Ngheredigion yw’r ffaith fod y system drafnidiaeth gyhoeddus mor ddiffygiol.
“Mae yna gymaint o bentrefi a chymunedau yn y sir sydd heb unrhyw gysylltiad bws bellach.
“Mae’n gwneud o’n anodd iawn i’w trigolion nhw gyrraedd y gwaith, i fynd i drefi ar gyfer gwasanaethau, ac wrth gwrs pobol ifanc i fynd i’r ysgol ac i gyfleoedd chwaraeon a hamddena.
“Y broblem fwyaf yn y sir o ran trafnidiaeth yw diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae’n wir fod Llywodraeth Cymru yn annog pobol i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hynny’n ddigon teg ond rwy’n credu bod yna gyfrifoldeb a dyletswydd wedyn ar y llywodraeth i ddarparu hynny, oherwydd rydym yn gwybod ei fod yn anodd cynnal gwasanaeth bysus mewn ardaloedd gwledig heb rywfaint o gefnogaeth trethdalwyr.
“Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth ddarparu’r gefnogaeth hynny.
“Mae hynny’n broblem o ran yr elfen drafnidiaeth.”
“Realiti” byd addysg
Wrth drafod byd addysg, roedd y bobol ifanc yn teimlo bod angen iddyn nhw ddysgu am realiti bywyd a phynciau fel arian yn y cwricwlwm.
“Pwnc arall a godwyd oedd y pwysau ar bobol ifanc yn rhannol oherwydd addysg ac arholiadau, ond hefyd y ffaith eu bod nhw’n teimlo bod angen gwell dealltwriaeth o realiti bywyd wedi’r ysgol, yn enwedig o ran pwysau ariannol a threfnu materion ariannol yr unigolyn – pethau fel trethi, cyfraniadau pensiwn, i ddeall y pethau mwy ymarferol hynny, bod hwnna’n rhoi llawer o bwysau ar bobol ifanc a bo nhw efallai yn teimlo bo nhw’n deall hynny ddigon da trwy’r cwricwlwm fel mae hi.
Iechyd meddwl yng nghefn gwlad
Law yn llaw â hyn roedd iechyd meddwl, a dydy Ben Lake ddim yn meddwl bod gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl yn ddigon hawdd eu cyrraedd i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Rwy’n credu fod pwysau iechyd meddwl yn ddifrifol, ac yn anffodus dydy’r gwasanaethau cefnogaeth i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl efallai ddim yn ddigonol o ystyried y galw sydd arnyn nhw ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae hynny yn wir ar draws y wlad, ond eto i gyd mewn ardaloedd mwy gwledig mae’r broblem yn cael ei theimlo yn llawer mwy aml oherwydd y ffaith bo chi’n gorfod teithio pellter eithaf sylweddol i gael mynediad at y gefnogaeth.
“Mae’n anoddach os ydych yn byw mewn ardal wledig.”
Cysylltiad â’r we
Dywed Ben Lake fod trafnidiaeth ac isadeiledd yn cyfrannu at broblemau swyddi a datblygiad economaidd.
O ran technoleg, mae’n credu bod angen cysylltiad rhyngrwyd cyflym er mwyn i bobol allu cael addysg a gallu gweithio o’u cynefin yng nghefn gwlad.
“Ymhellach i hynny, rhywbeth sydd yn broblem mewn ardaloedd gwledig yw ansawdd a chysylltiad y we, band-eang.
‘Mae hynny’n wir yng Ngheredigion fel ardaloedd eraill.
“Mae’r cysylltiad digidol yn wan iawn, â dweud y gwir.
“Er gwaetha’r ffaith fod addewidion gan y Llywodraeth yn San Steffan ers sawl blwyddyn i wella hynny a dod â buddsoddiad sylweddol i gryfhau neu gyflymu cysylltedd yn yr ardaloedd gwledig, mae’n anodd gweld y cynnydd ar lefel llawr gwlad.
“Yn aml iawn, mae dyn yn gweld ardaloedd mwy trefol y wlad yn carlamu ymlaen gyda chysylltiadau cyflym, cyflym.
“Rydyn ni yng nghefn gwlad yn cael ein gadael ar ôl.
“Dydw i ddim yn credu bod hynny yn deg o gwbl.
“Mae hynny yn her i ni yng nghefn gwlad, oherwydd mae gymaint nawr yn dibynnu ar gysylltedd band-eang dibynadwy a chyflym, ym maes addysg ond hefyd gwaith.
“Pe byddai yna gysylltiad gwell yng nghefn gwlad, cysylltiad mwy dibynadwy, rwy’n meddwl y byddem yn gweld mwy o bobol yn medru byw a gweithio yng nghefn gwlad yn rhithiol a gweithio o adref.
“Bydd hynny yn golygu fod dim gymaint o reidrwydd ar bobol ifanc, os ydyn nhw am fynd ar ôl gyrfa benodol, i symud allan o gefn gwlad.
“Efallai y bydd yna bosibilrwydd iddyn nhw weithio yng nghefn gwlad, gweithio gartref ran o’r wythnos ac efallai cymudo diwrnod neu ddau i drefi mwy fel Caerdydd ac ati.
“Mae hynny hefyd yn broblem.”
‘Digwyddiad llwyddiannus’
Yn ôl Ifan Meredith, roedd hi’n ddiddorol a phwysig clywed barn y bobol ifanc.
“Mae’r digwyddiad llwyddiannus yma wedi bod yn gyfle da i bobol ifanc ledled Ceredigion ddatgan eu barn am faterion cyfoes,” meddai.
“Roedd yn fraint gennyf gadeirio’r digwyddiad yma, lle cafwyd amrywiaeth o ymatebion gan y panel.
“Mawr obeithiaf y bydd y panelwyr yn ystyried barn pobol ifanc Ceredigion ac yn parhau i ymgynghori â’r ieuenctid.”
Yn ôl Bryan Davies, roedd y bobol ifanc yn wybodus ac aeddfed wrth drafod.
“Roedd hi’n bleser bod yn rhan o’r panel i drafod themâu pwysig sy’n effeithio ar bobol ifanc yn ein sir,” meddai.
“Roedd safon ac aeddfedrwydd y drafodaeth yn eithriadol, sy’n galondid mawr at ddyfodol Ceredigion.
“Mae’r Cabinet a minnau’n edrych ymlaen at drafod y themâu hyn sydd mor bwysig i’n pobol ifanc.”