Mae TUC Cymru wedi trefnu trafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ar y pwnc ‘Cydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg’.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ddydd Iau (Awst 10) am 3.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau 2.

Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar sut y gall undebau a chyflogwyr yng Nghymru gydweithio ag eraill i hyrwyddo hawliau’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i anelu tuag at greu Cymru fwy cyfartal, teg a chyfiawn, gyda gwaith teg yn rhan annatod ohoni.

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan sylfaenol o waith teg a chydraddoldeb yn y gweithle.

Bydd aelodau’r panel yn trafod cydraddoldeb yng nghyd-destun gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg, gan fynegi barn ar y prif flaenoriaethau o fewn y byd undebol, gweithleoedd a mudiadau i symud yr agenda Gymraeg yn y gweithle yn ei blaen.

Y siaradwyr fydd Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru, cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru a Rheolydd Sgiliau a Datblygiad i Prospect (sector Bectu); Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Dr Dyfrig Jones, Llywydd UCU Cymru ym Mhrifysgol Bangor, aelod o Bwyllgor Gwaith UCU Prydain ac Uwch Ddarlithydd Ffilm ym Mhrifysgol Bangor; Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; a Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

‘Normaleiddio’r Gymraeg yn y gweithle’

“Rydym yn ymfalchïo bod TUC Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth y ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisynydd yr Iaith yn 2022 sy’n arwydd o’n hymrwymiad ni i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle,” meddai Dr Mandy James, Swyddog Cysylltiadau Dwyieithog TUC Cymru.

“Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddatblygiadau parhaus o safbwynt y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yr un mor frwdfrydig i gefnogi ein 48 undeb cysylltiol gyda’u datblygiadau Cymraeg wrth ehangu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y symudiad undebol yng Nghymru.

“Yn ogystal, rydym am weld y defnydd o’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio mewn gweithleoedd ar draws Cymru.”