Bydd trafodaeth banel ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw (dydd Mawrth, Awst 8) yn rhoi sylw i sefyllfa teuluoedd ffoaduriaid wrth iddyn nhw fynnu addysg Gymraeg i’w plant.
Bydd y sesiwn ‘Ffoaduriaid ac Addysg Gymraeg: Llwybrau at yr iaith i deuluoedd’ yn cael ei chynnal ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 3.30yp dan arweiniad Dr Kathryn Jones o IAITH yn rhoi sylw i’r hyn sydd angen ei wneud i gefnogi’r teuluoedd hyn wrth iddyn nhw fynnu addysg Gymraeg i’w plant.
Un o ddigwyddiadau ‘Llwybrau at y Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr rhyngwladol’, prosiect gan gwmni IAITH a Phrifysgol Abertawe, yw’r sesiwn hon.
Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth ynghylch darpariaeth addysg Gymraeg i oedolion a phlant mudol yng Nghymru, yn ogystal â gwella mynediad at y ddarpariaeth hon.
Ar y panel fydd Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe, Jospeh Gnagbo o Gymdeithas yr Iaith, Kaveh Karimi o’r Groes Goch, Ceren Roberts o’r Urdd, Erica Williams o Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru, Rhys Glyn o Gyngor Gwynedd, a Nesta Davies ac Eira Owen o Gyngor Sir Ynys Môn.
‘Croeso Cymreig i newydd-ddyfodiaid’
“Da o beth yw cael y cyfle i drafod y mater pwysig hwn ar faes yr Eisteddfod eleni,” meddai Dr Kathryn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr IAITH Cyf.
“Bydd y drafodaeth yn gyfle i glywed yn uniongyrchol oddi wrth ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, yn ogystal â swyddogion arbenigol o amryw o sefydliadau.
“O ddwyn yr holl unigolion yma ynghyd, heb os mae’r sesiwn yn argoeli i fod yn un hynod werthfawr.”
Yn ôl Dr Gwennan Higham, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r Llywodraeth yn dangos trwy’r strategaeth Cenedl Noddfa fod “modd cynnig croeso Cymreig i newydd-ddyfodiaid”.
“Mae’r amser wedi dod i drafod y sefyllfa o ran addysg iaith i fewnfudwyr a sicrhau bod teuluoedd mudol yn cael y cyfle i ddewis addysg Gymraeg a dwyieithog yn ogystal â’r gefnogaeth i gynnal a chadw eu hieithoedd brodorol.”