Clywodd panel ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan ddoe (dydd Llun, Awst 7) fod rhaid i sefydliadau a sectorau gogledd-orllewin Cymru gydweithio’n agos ac yn gyflymach i sicrhau bod cymunedau lleol a’r Gymraeg yn parhau i ffynnu.

Cymdeithas Tai Adra oedd yn cynnal y digwyddiad, gyda’r siaradwyr yn cynnwys y Prif Weithredwr Iwan Trefor Jones; yr Aelod Dynodedig yn Llywodraeth Cymru, Sian Gwenllian; Bethan Williams o Mantell Gwynedd; Dafydd Gruffydd o Menter Môn; a’r Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd.

Y pynciau dan sylw oedd tai, costau byw, cyflogaeth a hyfforddiant, yr economi leol, y Gymraeg, gwytnwch cymunedau, gwirfoddoli, dyfodol economïau lleol a’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

‘Cyfle gwych i gael trafodaeth iawn’

Yn ôl Iwan Trefor Jones, roedd y sesiwn hon yn cynnig “cyfle gwych yn yr Eisteddfod i gael trafodaeth iawn”.

“Rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd mewn ffordd gydlynol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn y sesiwn,” meddai Prif Weithredwr Adra.

“Nid yw gweithio mewn partneriaeth yn newydd i unrhyw un ohonom ac fel unigolion a sefydliadau, rydym yn angerddol iawn dros sicrhau creu gwahaniaeth i’n cymunedau.

“Yr hyn sydd angen digwydd nesaf yw cael dull sy’n wirioneddol gysylltiedig, gan wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn canu yn yr un cywair ac yn gweithio er lles ein cymunedau.

“Roedd yn wych cael yr ymrwymiad hwnnw o amgylch y bwrdd yn y sesiwn. Mae angen inni weithredu ar y geiriau hynny.

“Wrth gwrs mae hyn yn broblem tu hwnt i ogledd-orllewin Cymru hefyd.

“Gall sefydliadau sy’n cydweithio’n llawer agosach ond gael effaith gadarnhaol ac edrychwn ymlaen at symud ymlaen gyda’r egni newydd hwn er budd ein cymunedau.”