Gwrthdrawiadau traffig sy’n achosi’r nifer fwyaf o anafiadau ymhlith plant, yn ôl ymgynghorydd brys pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Daeth sylwadau Dr David Hanna yn ystod ymweliad â’r ysbyty, cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a. ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru o Fedi 17.

Yn ôl y data gwrthdrawiadau diweddaraf sydd wedi eu cofnodi gan yr heddlu, mae ugain o bobol yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru bob wythnos.

Golyga hyn fod dros 1,000 o unigolion un ai’n cael eu lladd neu eu heffeithio’n ddifrifol gan wrthdrawiadau bob blwyddyn, gydag effeithiau enfawr ar eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae tystiolaeth ryngwladol hefyd yn dangos bod person bum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd ar gyfartaledd pan fydd cerbyd yn teithio ar gyflymder o 30m.y.a. o’i gymharu ag 20m.y.a.

Dywed Dr David Hanna fod plant mewn mwy o berygl nag oedolion.

“Mae gan blant lai o ymwybyddiaeth o’r ffyrdd nag oedolion a gallant fod yn anodd eu gweld,” meddai.

“Maent hefyd yn tueddu i gael eu taro’n uwch ar y corff nag oedolion oherwydd eu taldra, ac yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau difrifol o ganlyniad.

“Felly, bydd y terfyn o 20mya yn helpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau a difrifoldeb anafiadau.”

‘Y newid mwyaf o ran diogelwch cymunedol ers cenhedlaeth’

Yn ôl Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, cyflwyno’r terfyn cyflymdra o 20m.y.a. yw’r “newid mwyaf o ran diogelwch cymunedol yng Nghymru ers cenhedlaeth”.

“Mae lleihau cyflymderau nid yn unig yn achub bywydau, ond yn ein helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel,” meddai.

“Mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn dangos mai cyflymder cerbydau yw un o’r prif resymau pam nad yw pobol yn cerdded neu’n beicio, gydag un o bob tri oedolyn yng Nghymru yn dweud y byddai terfyn 20m.y.a. yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gerdded neu feicio mwy.

“Felly, nid yn unig y bydd cyflymderau arafach yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau, bydd hefyd yn helpu i gadw pobl yn iachach a lleihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Ystadegau

Yn ôl Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd, gall newid o 30m.y.a. i 20m.y.a. arwain at 40% yn llai o wrthdrawiadau bob blwyddyn.

Byddai hynny’n achub rhwng chwech a deg o fywydau, ac yn atal anafiadau rhwng 1,200 a 2,000 o bobol.

“O ran atal anafiadau, byddai hyn yn arbed tua £92m yn y flwyddyn gyntaf yn unig,” meddai.