Mae dynes 49 oed o ardal yr Wyddgrug wedi cael ei harestio ar amheuaeth o wneud galwad ffug am fom yn Neuadd Sir y Fflint yn yn y dref.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i’r adeilad fore ddoe yn dilyn gwybodaeth fod bygythiad o fom yno, ac fe fu’n rhaid gwagio neuadd y sir a Llys y Goron.

Aed â’r ddynes i’r ddalfa i gael ei holi, ac mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod U010336.