Mae dros 4,000 o bobol ar restr aros tai cymdeithasol Sir Gaerfyrddin mis yma, yn ôl Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, fydd yn annerch cynulleidfa yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ddydd Mercher (Awst 9).

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd e’n annerch y rali sy’n cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i reoli’r farchnad dai agored.

Bydd y rali’n cael ei chynnal am 2 o’r gloch tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith ar y Maes, a bydd gorymdaith draw at uned Llywodraeth Cymru, lle bydd Darren Price, Walis George, Elin Hywel, Rhys Tudur, Catrin O’Neill, Cian Ireland a Robat Idris yn siarad.

Effaith ddifrifol ar y Gymraeg a chymunedau

Yn ôl Darren Price, mae’r sefyllfa dai yn ddifrifol yn Sir Gaerfyrddin ac mae’r cyngor yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem, ond yn methu gwneud cyfiawnder â’r galw o ganlyniad i fewnfudo.

Dywed fod yr effaith ar yr iaith, cymuned a phobol yn ddifrifol.

“Mae dros 4,000 o bobol ar restr aros tai cymdeithasol Sir Gaerfyrddin mis yma. Mae nifer sylweddol ychwanegol yn edrych am dai preifat ac yn methu gwneud achos bod prisiau’r tai yn rhy uchel,” meddai wrth golwg360.

“Mae hyn yn effeithio ar bobol ifanc, yn amlwg, ond mae e hefyd yn effeithio ar bobol hŷn sydd yn rhentu.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o landlordiaid preifat naill ai wedi codi lefelau rhent i lefel sydd ddim yn fforddiadwy i deuluoedd lleol, neu wedi gwerthu eu tai.

“Mae hyn yn meddwl bod nifer cynyddol o deuluoedd yn lleol nawr yn chwilio am gartref.

“Mae’r storïau unigol yma yn hynod drist – pobol yn gorfod cysgu ar soffas ffrindiau neu deulu, neu yn cysgu mewn carafanau, sydd jyst ddim yn gynaliadwy.

“Mae’r Cyngor Sir yn ceisio ymateb i’r her drwy adeiladu tai cyngor newydd, ac yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad tai newydd o fewn y Sir yn cyfrannu tuag at ddelifro mwy o dai fforddiadwy, ond mae’r mewnfudo ychwanegol i’r sir yn meddwl ein bod ni’n methu deg a chadw lan gyda’r galw.

“Dydy’r system bresennol ddim yn cefnogi ein pobol, ein cymunedau na’n hiaith.”

‘Problem ym mhob rhan o Gymru’

Ym marn Darren Price, mae gorfodi pobol i adael eu bro oherwydd diffyg mynediad at dai yn achosi effaith negyddol ar y gymuned a’r iaith.

“Mae’n amlwg bod nifer o unigolion a theuluoedd o bob rhan o Gymru yn cael trafferth ffeindio tŷ i’w rentu neu i’w brynu ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae hyn yn meddwl bod teuluoedd ifanc yn aml yn gorfod gadael eu pentrefi neu ardaloedd genedigol, sydd wedyn yn cael effaith ar hyfywedd yr ardal honno, yn cael effaith ar hyfywedd gwasanaethau lleol ac ysgolion, er enghraifft, a hefyd yn cael effaith andwyol ar yr iaith mewn siroedd fel Sir Gaerfyrddin.

“Mae rhaid bod Llywodraeth Cymru felly yn datblygu strategaeth sydd yn ymateb i hyn, ac mae Deddf Eiddo yn rhan o’r ateb, ynghyd a datblygu strategaethau economaidd ac ieithyddol.”

Deddf Eiddo

Yn ôl Darren Price, mae angen mynd gam ymhellach na’r grymoedd ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i gynghorau sir yn nhermau ail gartrefi a thai gwag, ac yn ei farn e mae angen Deddf Eiddo i achub ein cymunedau a’n hiaith.

“Mae’n amlwg fod y farchnad rydd yn methu’n cymunedau ni ar hyn o bryd, a bod angen ymyrraeth ychwanegol er mwyn sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i’n trigolion lleol ni,” meddai.

“Mae cyflwyno Deddf Eiddo yn gyfle i ddatblygu system decach yma yng Nghymru.

“Mae angen sicrhau rhenti teg yn y farchnad rhenti preifat – ar y foment, mae lefelau rhent allan o gyrraedd lot o bobol, ac mae angen taclo hyn.

“Hefyd, mae angen edrych ar ddatblygu modelau ac ymyraethau newydd er mwyn sicrhau bod pobol leol yn gallu fforddio prynu tai yn eu cymunedau lleol.

“Mae’r grymoedd ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i Gynghorau Sir yn nhermau ail gartrefi a thai gwag yn gamau positif, ond mae’r broblem yn fwy eang na hynny, ac mae angen gwneud mwy.

“Mae’r Ddeddf Eiddo yn gyfle i wneud hynny, ac mae angen bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn cyn gynted ag sy’n bosib, fel ein bod ni’n gallu cynnal sgwrs genedlaethol ar yr hyn y ddyled ei gynnwys yn y Ddeddf.”

‘Problem ehangach o lawer na Gwynedd yn unig’

Yn ôl Ffred Ffransis o weithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, bydd cael Darren Price yn angerdd y rali yn pwysleisio bod y broblem sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i Wynedd.

“Dyma adeg dyngedfennol yn yr ymgyrch am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad agored gan y gallen ni redeg allan o amser i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor seneddol hwn,” meddai.

“Does dal dim arwydd o amserlen Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar y mater, a byddwn yn gofyn i bobol ar y Maes i anfon at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn galw am gyflymu’r broses gan na all ein cymunedau aros yn hirach.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Credwn fod gan bawb yr hawl i gartref fforddiadwy o safon i’w brynu neu ei rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallan nhw fyw a gweithio’n lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu i wireddu hyn, fel rhan o becyn wedi’i gydlynu o ddatrysiadau i set gymhleth o faterion.

“Rydym hefyd wedi ymroi i gyhoeddi Papur Gwyn ar y potensial i sefydlu system o renti teg, ynghyd â dulliau newydd i wneud cartrefi’n fforddiadwy i’r rheiny ar incwm isel.”