Cyflogau isel ac ansicrwydd gwaith, ynghyd â phremiwm costau byw, yw’r prif ffactorau sy’n arwain at dlodi yn Arfon, yn ôl adroddiad newydd.
Cafodd y gwaith ymchwil ei rannu ar Faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd heddiw (dydd Llun, Awst 7).
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, i ddatblygu dealltwriaeth o dlodi yn yr etholaeth ac i archwilio atebion posib.
Roedd un ym mhob pump (21%) yn byw mewn tlodi yng Nghymru rhwng 2019 a 2020, ac rhwng 2021 a 2022, ac yn ôl y ffigurau diweddaraf mae dros 2,500 o blant yn byw mewn tlodi yn Arfon erbyn hyn – 21% o’r plant sy’n byw yn yr etholaeth.
Gwaith yn Arfon
Fe wnaeth yr adroddiad gan Sefydliad Bevan ganfod fod cyfanswm o 74.2% o boblogaeth oed gwaith Arfon mewn gwaith rhwng Ionawr a Rhagfyr y llynedd, o gymharu â 73.3% trwy Gymru gyfan.
Roedd tua 35% o weithwyr Arfon yn gweithio’n rhan amser y llynedd, o’i gymharu â 28% ledled Cymru.
Serch hynny, mae gan gyfran uwch o’r gweithlu yn yr etholaeth swyddi heb fod yn rhai parhaol o’i gymharu â chyfartaledd Cymru.
Ar ben hyn, er bod y tri maes amlycaf yn yr etholaeth – iechyd, addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus – yn darparu nifer o swyddi sy’n talu’n dda, maen nhw hefyd yn cyflogi nifer fawr o bobol mewn swyddi sy’n talu llai.
Mae cyfran lawer uwch o breswylwyr Arfon yn gweithio mewn swyddi o’r fath na chyfartaledd gwledydd Prydain.
Mae gan chwarter poblogaeth yr etholaeth swyddi gofal neu hamdden, neu waith mewn galwedigaethau elfennol fel glanhau, o’i gymharu â 17.5% trwy wledydd Prydain.
Incwm yn Arfon
Er bod nifer y bobol sy’n gweithio yn Arfon yn debyg i weddill Cymru, mae’r cyflog i weithwyr sy’n byw yn yr etholaeth yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Cyflog gros canolrifol gweithwyr amser llawn sy’n byw yn Arfon yw £583.40 yr wythnos.
Mae hyn yn £20.10 yr wythnos yn llai na’r gweithiwr cyffredin yng Nghymru.
Canfyddiad arall yw fod cyflogau swyddi’r etholaeth yn sylweddol uwch na chyflog gweithwyr sy’n byw yn Arfon.
£642.40 yw’r cyflog wythnosol canolrifol ar gyfer pobol sy’n gweithio yn Arfon – £59 yr wythnos yn uwch na chyflog wythnosol canrolrifol pobol sy’n byw yn Arfon.
Premiwm costau byw yn Arfon
Er mai tai ac ynni yw’r brif gost sy’n wynebu’r rhan fwyaf o aelwydydd, mae costau eraill fel bwyd, trafnidiaeth a gofal plant yn gwthio teuluoedd i dlodi.
Mae pryderon pobol Arfon yn ymwneud â phrinder mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ac effaith hynny ar y gallu i ddefnyddio siopau fforddiadwy.
Yng Nghaernarfon a Bangor mae archfarchnadoedd mawr yr etholaeth, ond dydy rhai ddim yn gallu cyrraedd y siopau hyn ac yn gorfod dibynnu ar siopau lleol sy’n nes at adref.
Mae bwyd yn y siopau hyn yn costio llawer mwy na’r bwyd yn yr archfarchnadoedd mwyaf, sy’n golygu bod teuloedd incwm isel sy’n methu fforddio neu’n methu â theithio i Fangor neu Gaernarfon yn wynebu biliau bwyd uwch.
Atebion
Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod angen nifer o welliannau o fewn yr etholaeth.
Er mwyn cryfhau’r economi, mae Sefydliad Bevan yn awgrymu gwella mynediad at swyddi cyflogau uwch.
Maen nhw hefyd yn awgrymu y dylai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd ddod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig.
Awgrym arall yw meithrin cyfoeth cymunedol drwy roi cyfle i fentrau cymdeithasol a busnesau bach lleol gwrdd â’r sefydliadau cyhoeddus allweddol yng Ngwynedd a busnesau mwy.
Pwynt arall sydd wedi’i godi yw fod angen cefnogi twristiaeth gynaliadwy drwy adolygu cynllun Cyngor Gwynedd yn gyson.
Mae Sefydliad Bevan hefyd yn credu bod angen camau gweithredu ar dai a thlodi tanwydd yn ogystal â thrafnidiaeth, er mwyn lleihau’r premiwm costau byw.