Mae perchennog ciosg blin yn dweud bod fandaleiddio toiledau droeon mewn llecyn i dwristiaid yn digalonni staff ac ymwelwyr.

Mae Michael Williams yn rhedeg dau giosg hufen iâ a bwyd ar bromenâd Traeth Pensarn, ond mae’n dweud bod difrod i’r toiledau’n costio’n ddrud i fusnesau.

Dywed fod ymwelwyr a staff wedi digalonni oherwydd prinder cyfleusterau o ganlyniad i fandaliaeth barhaus i doiledau cyhoeddus y Cyngor.

Ond mae’n dweud bod y fandaliaeth wedi dechrau ar ôl i Gyngor Conwy osod slotiau arian ar ddrysau’r toiledau ar ddechrau tymor yr haf.

“Mae’r holl fasnachwyr yn teimlo’r un fath,” meddai.

“Dydyn ni erioed wedi cael y broblem hon nes iddyn nhw roi’r mecanweithiau arian ar ddrysau’r toiledau er mwyn codi arian.

“Rydan ni’n cael llawer o bobol yn dod lawr, pobol oedrannus, pobol ag anableddau, teuluoedd efo plant, ond maen nhw’n gyrru i ffwrdd oherwydd does gennon ni ddim cyfleusterau, a dydy’r staff ddim yn medru gweithio oherwydd dydyn nhw’n methu mynd drwy’r dydd heb doiled.

“Felly maen nhw un ai’n gwneud oriau llawer byrrach neu dydyn nhw ddim yn gweithio am nad ydyn nhw’n medru cael diod.

“Mae llawer o aelodau’r cyhoedd wedi bod yn cwyno amdano fo.

“Pan ddaru fi ofyn i’r Cyngor, dywedon nhw nad oes gennon nhw ddyletswydd statudol i ddarparu toiledau symudol.”

“Dywedais innau, ‘Beth am ddyletswydd foesol?’

“Mae’n syrthio ar glustiau byddar.

“Mae’n ymddangos nad oes brys, a dyma’r ail waith mewn mis iddyn nhw fod ar gau am wythnos yn ystod tymor masnachu brig.

“Rydan ni’n ceisio denu twristiaid i’r ardal, ond dydyn nhw ddim am aros os nad oes cyfleusterau.

“Mae nifer y cwynion rydan ni’n eu derbyn yn anghredadwy.”

Ymateb

“Mae mater parhaus hefo fandaliaeth yn y cyfleusterau hyn, sydd wedi’u difrodi, eu cau, eu trwsio a’u hailagor sawl gwaith yr haf yma,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy.

“Ailagorodd y toiledau’n fwyaf diweddar ar Orffennaf 20, ar ôl i ni eu trwsio nhw ar ôl fandaliaeth flaenorol.

“Roedd fandaleiddio i’r toiled anabl unwaith eto ar Orffennaf 27 fel na fyddai’r drws yn cau nac yn cloi, ac yna mae cyfleusterau’r dynion a’r merched wedi cael eu fandaleiddio eto dros y penwythnos.

“Rydyn ni’n aros am gydrannau fel bod modd trwsio ac ailagor y toiledau eto.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y fandaliaeth, gofynnwn iddyn nhw adrodd amdani wrthym.”