Bydd Rhun ap Iorwerth yn galw heddiw (dydd Llun, Awst 7) am strategaeth newydd gynhwysfawr i atal diboblogi mewn cymunedau Cymraeg.
Daw hyn wrth iddo fe gymryd rhan mewn sesiwn banel ar Faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.
Wrth gyfeirio at ffigyrau sy’n dangos cwymp yn nifer y bobol iau mewn ardaloedd megis Môn a Phenfro, dywed arweinydd Plaid Cymru mai “tai, gwaith, ac iaith” yw conglfeini cymunedau hyfyw a gwydn.
Dywed fod ei blaid wedi sicrhau sawl gweithred gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn sgil y Cytundeb Cydweithio, ond fod yn rhaid i’r Llywodraeth fynd llawer pellach os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac os am wella gwytnwch economaidd cymunedau cefn gwlad.
Gorfodi pobol ifanc i adael “yn eu cannoedd”
“Mae pobol ifanc Cymru yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau yn eu cannoedd oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith a phrinder cartrefi fforddiadwy,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae gennym genhedlaeth o dalent sy’n ysu i wneud cyfraniad ond mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael a’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau yn golygu fod diffyg cyfleoedd iddynt.
“Rhwng dau gyfrifiad 2011 a 2021, gwelwyd cwymp o 2,300 yn y nifer o bobl 35-49 oed sy’n byw ar Ynys Môn tra bod y ffigwr cyffelyb ar gyfer Sir Benfro yn 4,000.
“Tai, gwaith, iaith – dyna gonglfeini cymunedau hyfyw a gwydn.
“Dyna pam fod Plaid Cymru wedi blaenoriaethu taclo’r argyfwng tai fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gan berswadio Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar ail gartrefi.
“Dyna pam hefyd ein bod wedi sicrhau cyllid i’r cynllun Arfor 2 sy’n buddsoddi mewn gwella gwytnwch economaidd cadarnleoedd yr iaith.
“Ond mae angen i’r Llywodraeth fynd llawer pellach. Nid dim ond prinder cartrefi fforddiadwy sy’n gorfodi pobol ifanc i symud ond hefyd y diffyg swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda.
“Mae’n rhaid felly i Lywodraeth Lafur Cymru ddatblygu strategaeth newydd bellgyrhaeddol i fynd i’r afael â diboblogi ac i ddenu buddsoddiad cynaliadwy i gadarnleoedd ein hiaith.
“Rhaid i hyn gynnwys cefnogaeth frys i ardaloedd megis Llangefni a Chapel Hendre sydd wedi colli cannoedd o swyddi yn ddiweddar wrth i gwmnïau godi pac yn sgil yr argyfwng costau byw a Brexit.
“Mae gwarchod y Gymraeg hefyd yn fwy na gosod targed – rhaid gwarchod y cymunedau hynny ble gall yr iaith ffynnu.
“Mae data’r Cyfrifiad yn dangos fod llai o blant yn credu eu bod yn medru’r Gymraeg nag oedd ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’r amcan o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050 yn ymddangos yn gynyddol afrealistig ar sail ymagwedd a pholisïau presennol y Llywodraeth.
“Dengys y Cyfrifiad hefyd fod cwymp yn y nifer o oedolion sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd ble fo cynnydd yn y nifer o ail gartrefi, ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael pecyn cynhwysfawr o bolisïau i fynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu meysydd tai, gwaith ac iaith, a hynny ar fyrder.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae helpu pobol ifanc i gynllunio’u dyfodol yn flaenoriaeth i ni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae ein cenhadaeth ar gyfer yr economi yn cefnogi cryfderau unigryw economïau lleol i greu gwell swyddi a busnesau cryfach ac rydyn ni’n helpu i greu a diogelu swyddi mewn cymunedau Cymraeg yn erbyn cefndir economaidd sy’n gynyddol anodd.
“Mae’r enghreifftiau’n cynnwys buddsoddiad mawr mewn cannoedd o swyddi newydd o ansawdd uchel yng nghyfleuster Ymchwil a Datblygu Siemens yn Llanberis, a’r Rhaglen ARFOR sy’n cysylltu pobol iau â chyfleoedd yn nes at eu cartref.
“Rydyn ni’n cymryd camau pwysig i sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu. Ac fe gafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu gennym i wneud argymhellion ar hyn.
“Credwn fod gan bawb hawl i gartref gweddus a fforddiadwy y mae modd iddynt ei brynu neu ei rentu yn eu cymunedau eu hunain.
“Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau radical a digyffelyb drwy’r systemau cynllunio, eiddo a threthi, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.
“Yn ogystal, mae Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn helpu cymunedau i berchnogi a chyflawni cynlluniau yn unol â’u hanghenion.”