Aseel a Nasser Muthana
Doedd dim syniad gan ddyn ifanc y byddai bachgen yn ei arddegau o Gaerdydd yn ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) pan roddodd help iddo gyrraedd Syria, clywodd llys yn Llundain heddiw.
Mae Forhad Rahman, ynghyd â thri dyn arall, gan gynnwys Kristen Brikke, 20 oed o Grangetown yng Nghaerdydd, yn sefyll eu prawf yn yr Old Bailey, wedi’u cyhuddo o helpu’r llanc i adael ei gartref yn y brifddinas i ymladd dros IS yn Syria.
Roedd Aseel Muthana yn 17 oed pan adawodd Cymru i ddilyn ei frawd hŷn yn Syria ym mis Chwefror 2014.
Honnir bod Forhad Rahman wedi helpu Aseel Muthana i gael pasbort a thalu am ei docyn awyren ynghyd â thocyn bws i Gatwick.
Wrth roi tystiolaeth, cyfaddefodd ei fod wedi caniatáu i’r llanc ddefnyddio ei gerdyn credyd ond mynnodd ei fod yn meddwl bod Aseel Muthana yn mynd i Syria i ‘helpu pobol’.
“Pan drafodon ni hyn, doedd IS ddim yn rhan o’r cynllun,” ychwanegodd.
Dim ond ar ôl i Aseel Muthana adael y dywedodd wrtho ei fod wedi ymuno â’r grŵp brawychol ac wedi anafu ei droed wrth hyfforddi, meddai.
Roedd brawd Aseel, Nasser Muthana, hefyd o Gaerdydd, wedi mynd i Syria dri mis ynghynt ac ymddangosodd ar fideo propaganda IS ym mis Mehefin 2014.
Dienyddio IS yn ‘farbaraidd’
Dywedodd Forhad Rahman ei fod wedi penderfynu peidio â chefnogi IS ar ôl gweld pobol yn cael eu dienyddio gan y grŵp eithafol a oedd yn gyhoeddus ar fideos ar y we.
“Roedd hyn yn hollol wahanol i’r IS cyn hyn,” meddai.
“Doedd hynny (y dienyddio) ddim yn gwneud synnwyr i mi. Roedd e’n farbaraidd.
“Gallwch chi ddim recordio rhywun yn cael ei ddienyddio sydd heb wneud dim o’i le, a aeth allan i helpu pobol. Does dim cyfiawnhad iddo.”
Gwadu brawychiaeth
Mae’r tri dyn, Forhad Rahman o Swydd Gaerloyw, Kristen Brekke, 20, o Grangetown, Caerdydd ac Adeel Ulhaq, 21, o Swydd Nottingham yn gwadu paratoi at weithredoedd o frawychiaeth.