Safle'r ddamwain yng Nghaerfaddon
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau’n ymwneud a damwain lori yng Nghaerfaddon ym mis Chwefror y llynedd pan gafodd pedwar o bobl eu lladd, tri ohonyn nhw o Gymru.

Mae Phillip Potter, 19, a Matthew Gordon, 29, yn wynebu cyfanswm o naw cyhuddiad mewn perthynas â’r digwyddiad yn Lôn Lansdown, Upper Weston yng Nghaerfaddon.

Bu farw Stephen Vaughan, 34 oed o Benyrheol; Phil Allen, 52 oed o Gasllwchwr a Robert Parker, 59 o Gwmbrân ynghyd a Mitzi Rosanna Steady, 4, o Gaerfaddon ar ôl i lori 32 tunnell golli rheolaeth a tharo nifer o gerbydau a cherddwyr wrth deithio i lawr allt serth ar 9 Chwefror.

Cafodd nain Mitzi Steady, Margaret Rogers, hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain.

Fe ymddangosodd Potter, 19, a Gordon, 29, y ddau o Dauntsey, Wiltshire yn Llys Ynadon Caerfaddon heddiw ar gyfer gwrandawiad a barodd saith munud.

Nid oedden nhw wedi cyflwyno ple.

Mae Phillip Potter yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a dau gyhuddiad o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae Matthew Gordon wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o gynorthwyo achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, dau gyhuddiad o gynorthwyo achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, ac un cyhuddiad o yrru’n beryglus.

Fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Bryste ar 22 Chwefror ar gyfer gwrandawiad cychwynnol a chafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth.