Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i gyfres o fyrgleriaethau a ddigwyddodd ar safle pump o fusnesau yn San Clêr, Sir Gaerfyrddin yn ystod oriau man fore ddoe.
Fe ddigwyddodd y pum lladrad a dwy ymgais i ladrata rhwng 1yb a 5.30yb ddydd Mercher, 20 Ionawr yn ardal y Groesffordd, ble cafodd arian, sigaréts, offer, a photel o siampên eu dwyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jayne Butler: “Mae swyddogion yr Heddlu yn ymchwilio i geisio canfod y rhai oedd yn gyfrifol.
“Mae swyddogion ychwanegol ar batrôl yn yr ardal yn dilyn y lladradau gyda chyngor atal trosedd yn cael ei gynnig i berchnogion yr eiddo a gafodd eu heffeithio.
Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda changen CID Caerfyrddin trwy ffonio 101.